Person wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r M4 ger Porth Caerdydd fore Iau
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De yn ymchwilio wedi i berson farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4 yng Nghaerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyffordd 30 ger Porth Caerdydd (Cardiff Gate) tua 03:30 fore Iau.
Bu farw gyrrwr car Honda Accord yn y gwrthdrawiad. Does dim manylion a oedd cerbydau eraill yn rhan o'r digwyddiad
Mae'r heddlu wedi cysylltu gyda theulu'r person fu farw ac maen nhw'n cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Roedd y llain adael i gyfeiriad y dwyrain ynghau am nifer o oriau wrth i swyddogion ymchwilio i'r digwyddiad.