Cymru 'ar ei cholled' oherwydd diffyg buddsoddiad yn y rheilffyrdd
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru ar ei cholled oherwydd diffyg buddsoddiad yn y rheilffyrdd, yn ôl arbenigwr blaenllaw.
Dywed yr Athro Mark Barry y dylai Cymru fod yn cael llawer mwy o arian, ond oherwydd bod gwariant yn cael ei reoli o Whitehall, mae Lloegr yn fwy o flaenoriaeth.
Ond dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, ei bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gael mwy o arian ar gyfer ein rheilffyrdd.
Mae'r llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan yn dweud bod buddsoddi yn allweddol i'w blaenoriaethau.
'Symiau bach iawn'
Yr Adran Drafnidiaeth yn Llundain, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am fuddsoddiad y rheilffyrdd.
Ond yn ôl yr Athro Barry, o Brifysgol Caerdydd, mae hynny'n golygu bod Cymru ymhell i lawr y ciw am bres.
Dywedodd bod Cymru yn derbyn tua 1% i 2% o’r cyllid sydd ar gael ond y dylen ni gael llawer mwy.
“Mewn byd delfrydol byddech chi’n edrych ar 5%, 6% o gyfanswm buddsoddiad y DU mewn gwella rheilffyrdd,” meddai.
“Ond os na wnewch chi fuddsoddi mewn seilwaith economaidd hanfodol, yn benodol mewn ynni, trafnidiaeth a thai, yna allwch chi ddim disgwyl i’ch economi droi cornel.”
Aeth ymlaen i esbonio bod y symiau y mae Cymru'n gofyn amdanynt yn fach iawn o'u cymharu â'r hyn sydd eisoes wedi'i neilltuo i reilffyrdd Lloegr.
Dywedodd: “Mae Uwchraddio’r Reilffordd Traws-Pennine yn rhaglen gyfalaf gwerth £10 biliwn dros 15 mlynedd.
“Yng Nghymru dros y bum mlynedd diwethaf, ry’n ni wedi creu achosion busnes o ryw £2 i £3 biliwn ar gyfer buddsoddi mewn rheilffyrdd, a’r her yw sut mae hynny'n mynd i gael ei ariannu?"
Mae’r ddadl fwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod ynghylch cyllid ychwanegol i Gymru o’r prosiect HS2.
Cyn ennill yr etholiad, dywedodd Llafur y dylai HS2 fod yn gynllun i Loegr yn unig ac y dylai Cymru gael arian o ganlyniad.
Mae Eluned Morgan hefyd yn dweud ei bod wedi siarad â’r Canghellor am fuddion i Gymru ar hyn.
Mae'r gwrthbleidiau am weld Cymru'n pwyso am yr arian, sy’n cael ei amcangyfrif i fod ryw £4 i £5 biliwn.
Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AS: "Dylai Cymru fod yn cael ei chyfran deg o gyllid HS2.
"Mae angen inni wneud yn siŵr bod hynny’n digwydd fel y gallwn ei wario ar seilwaith a gwelliant i’n system trafnidiaeth yma yng Nghymru."
Ar raglen Dros Frecwast ddydd Sadwrn dywedodd y newyddiadurwr trafnidiaeth Rhodri Clark bod yna fwy o gydweithio i weld rhwng llywodraethau Llafur Cymru a'r DU "ond hyd yn hyn 'dan ni ddim wedi gweld unrhyw bres newydd sylweddol ar gyfer isadeiledd" rheilffyrdd Cymru.
Ychwanegodd: "Roedd 'na gyhoeddiad tua mis yn ôl bod 'na bres i adeiladu rhai pontydd troed newydd ar linell gogledd Cymru o ganlyniad i'r berthynas well yma ond... oedd y llywodraeth [Geidwadol] ddwytha wedi bwriadu rhoi pres i hwnna hefyd."
- Cyhoeddwyd27 Medi
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2023
Cafodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru, ei holi am y mater yn y Senedd yn gynharach yn y mis.
Dywedodd Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts wrth Dŷ’r Cyffredin: "Y gwir yw bod y rheilffyrdd wedi torri, ac mae cynllun Llafur yn methu â mynd i’r afael â’r tanariannu cronig sy’n ei achosi, yn enwedig yng Nghymru.
"Yn 2022, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol - Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid ar y pryd - ei bod yn 'hollol afresymegol' dynodi HS2 yn brosiect i Gymru a Lloegr, a galwodd ar y Ceidwadwyr i 'besychu' y biliynau sy’n ddyledus i Gymru. A fydd hi'n pesychu nawr?"
Mewn ymateb, dywedodd Jo Stevens: "Ni allwn fynd yn ôl mewn amser a newid y ffordd y cafodd y prosiect hwnnw ei gomisiynu, ei reoli a’i ddosbarthu gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol.
"Mae angen iddynt dderbyn cyfrifoldeb am yr anhrefn, yr oedi a'r gwastraff.
"Yr hyn y gallwn ei wneud, fodd bynnag, yw gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr yn y Senedd ac awdurdodau lleol i ddatblygu a buddsoddi mewn prosiectau trafnidiaeth sy’n gwella gwasanaethau i deithwyr ledled Cymru."
Mewn datganiad, cadarnhaodd Swyddfa Cymru yr hyn a ddywedodd Jo Stevens yn Nhŷ’r Cyffredin ac ychwanegodd: "Yn dilyn blynyddoedd o esgeulustod, mae’r Llywodraeth newydd hon yn y DU yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
"Mae Ysgrifennydd Cymru eisoes wedi cyfarfod â’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth i drafod buddsoddi yn rheilffyrdd Cymru.
"Mae’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i nodi ystod o welliannau, ac yn ddiweddar aeth gyda Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru a Gogledd Cymru i gyhoeddi gwaith uwchraddio a fydd yn cynyddu capasiti ar brif reilffordd Gogledd Cymru.
"Ochr yn ochr â hyn mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o ymrwymiadau trafnidiaeth y llywodraeth flaenorol, a fydd yn sicrhau bod ein portffolio seilwaith trafnidiaeth yn sbarduno twf economaidd ac yn rhoi gwerth am arian i drethdalwyr."