HS2 yn brosiect i Loegr yn unig, meddai Senedd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Dyluniad o sut allai tren HS2 edrychFfynhonnell y llun, HS2

Mae Senedd Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i ailddynodi HS2 fel prosiect i Loegr yn unig, a rhoi'r "symiau canlyniadol sy'n ddyledus i Gymru".

Roedd pob plaid - gan gynnwys y Ceidwadwyr - yn cefnogi cynnig Plaid Cymru ddydd Mercher.

Bwriad y cynllun ydy creu cysylltiadau rheilffordd cyflym rhwng Llundain a dinasoedd mawr yng nghanolbarth a gogledd Lloegr.

Mae'r llwybr cyflym wedi'i gategoreiddio'n swyddogol fel prosiect Cymru a Lloegr, er nad yw'n croesi'r ffin.

Mae oedi a chynnydd mewn costau wedi effeithio yn ddybryd ar brosiect rheilffordd cyflym HS2.

Yn 2010, roedd disgwyl iddo gostio £33bn ond nawr mae disgwyl fod y ffigwr hwnnw wedi codi i £71bn.

Dywedodd Plaid Cymru y byddai ei hailddynodi fel prosiect Lloegr yn unig yn darparu £5bn o gyllid i Gymru.

'Esgeuluso'

Wrth agor dadl yn y Senedd, dywedodd AS Plaid Cymru, Luke Fletcher, y dylai Llywodraeth y DU "gydnabod ei hesgeuluso anghyfiawn o Gymru a rhoi'r cyllid canlyniadol sy'n ddyledus i ni".

Pan fydd Llywodraeth y DU yn gwario arian ar bethau yn Lloegr sydd wedi'u datganoli i Gymru, megis iechyd ac addysg, mae fel arfer yn sbarduno cyllid ychwanegol i Gymru.

Ond nid yw'r rhan fwyaf o seilwaith y rheilffyrdd wedi'i ddatganoli ac mae galw HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr yn golygu nad oes arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Siemens/ PA
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad o sut allai tren HS2 edrych

Roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynnig Plaid Cymru, er mai'r Torïaid sydd mewn grym yn San Steffan.

Ond dywedon nhw y dylai'r cyllid fynd yn syth i Network Rail yn lle Llywodraeth Cymru.

Dywedodd yr AS Torïaidd Natasha Asghar: "Mae gan Lafur yng Nghymru hanes erchyll o wastraffu cannoedd o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr ar eu prosiectau gwagedd."

Mae Llywodraeth y DU wedi dadlau y bydd HS2 yn hybu dibynadwyedd, cysylltedd a chapasiti ar lwybrau ledled y DU, gan gynnwys gwasanaethau i mewn i Gymru.

'Sgandal'

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud y dylai'r cynllun gael ei ailddynodi.

Croesawodd y dirprwy weinidog newid hinsawdd Lee Waters y consensws trawsbleidiol ar y mater.

"Mae hwn yn beth syml iawn a dweud y gwir. Mae hwn yn brosiect Lloegr yn unig a dylem fod yn cael swm canlyniadol datganoledig o hynny," meddai.

"Mae'n sgandal nad ydyn ni."

Yng nghynhadledd Llafur Cymru ym mis Mawrth, dywedodd arweinydd Llafur Keir Starmer na fyddai'n gwneud ymrwymiad ar gyllid HS2 i Gymru.