Carcharu gyrrwr 'hunanol' am daro merch fach ar sgwter
Fideo CCTV yn dangos y car yn taro merch a gyrru i ffwrdd yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei garcharu am 14 mis ar ôl taro merch bum mlwydd oed oedd yn teithio ar sgwter ar balmant.
Roedd Kurtis Dwyer yn gyrru car pan aeth i fyny ar y palmant a tharo'r ferch oedd ar sgwter y tu allan i Ysgol Parc Ninian, ar Heol Sloper, Caerdydd, cyn gyrru i ffwrdd.
Roedd camerau cyfyng CCTV wedi ffilmio'r digwyddiad ar 24 Mawrth y llynedd.
Dywedodd mam Casey wrth y llys fod "angel yn edrych i lawr arni" oedd yn golygu na chafodd ei lladd na chael anafiadau difrifol, ond ei bod wedi dioddef "effaith emosiynol sylweddol".
Dywedodd y Barnwr, Simon Mills, wrth Dwyer ei fod wedi gwneud penderfyniad "hunanol" i yrru mewn modd "hurt" a'i fod wedi dangos "llwfrdra" drwy yrru i ffwrdd a gadael ei gerbyd.

Dywedodd mam Casey wrth y llys fod "angel yn edrych i lawr arni" oedd yn golygu na chafodd ei lladd
Clywodd y llys fod Casey wedi bod ar ei sgwter ar y palmant wedi iddi fod yn y parc gyda'i mam a'i brawd.
Dywedodd yr erlynydd, Mari Watkins, fod mam Casey, Rachel Bancroft, wedi clywed sŵn, "wedi gweld y diffynnydd yn gyrru'r car, yn mynd ar y palmant ac yn taro Miss Wilson i lawr cyn i'r cerbyd yrru i ffwrdd".
Ychwanegodd ei bod yn "wyrthiol" mai dim ond hercian a chleisiadau gafodd Casey ac na chafodd "anafiadau gwaeth na hyd yn oed rhywbeth gwaeth na hynny".

Nid oedd gan Dwyer drwydded yrru pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad
Clywodd y llys fod Dwyer - oedd yn gyrru heb drwydded, yswiriant na chaniatâd i yrru'r cerbyd - wedi gadael y car ychydig strydoedd i ffwrdd.
Fe gysylltodd Dwyer â thad Casey ychydig ddyddiau'n ddiweddarach gan ddweud: "Doeddwn i ddim yn gwybod fy mod wedi taro'ch plentyn, gollyngais i sigarét a cholli rheolaeth."
Ar ôl cael cais i siarad â'r heddlu, fe aeth Dwyer at swyddogion a phledio'n euog i yrru'n beryglus mewn gwrandawiad o flaen ynadon Caerdydd y llynedd.

Mae'r digwyddiad wedi effeithio yn fawr ar Casey, yn ôl ei mam, Rachel Bancroft
Mewn datganiad personol, dywedodd mam Casey, Rachel Bancroft, wrth y llys "ei bod wedi bod yn byw gyda PTSD ers y digwyddiad a'i bod yn ofni'n ddyddiol am unrhyw geir, croesfannau neu'r ffordd yn gyffredinol".
Roedd hi wedi bod yn blentyn bywiog "ond nawr mae hi wedi'i gludo i fy ochr yn gyson, mae hi'n dioddef gyda chwysu, hunllefau difrifol a gwlychu'r gwely. Mae hi'n fyr ei thymer ac yn cael pyliau niferus o ddicter a rhwystredigaeth".
"Un diwrnod dwi'n cofio... fe aeth beic modur uchel heibio'r tŷ ac roedd Casey'n crynu ac yn sgrechian ac yn rhedeg mewn ofn."
Dywedodd Rachel Bancroft ei bod hi a'i mab hefyd yn dioddef gyda PTSD o ganlyniad i'r hyn ddigwyddodd.
Mae Dwyer yn byw yn agos at y teulu a dywedodd Rachel Bancroft wrth y llys fod hynny "yn gwneud pethau biliwn gwaith yn waeth".
"Rwy'n cerdded o gwmpas mewn ofn, gan aros i daro i mewn iddo."
'Penderfyniad hunanol'
Clywodd y llys fod gan Dwyer record droseddol hir gyda nifer o droseddau moduro, a'i fod wedi gyrru tra wedi'i wahardd ers y digwyddiad hwn.
Dywedodd y Barnwr Simon Mills mai "un o bleserau bach bywyd i blentyn yw mynd ar hyd palmant ar sgwter gyda'ch brawd a'ch mam" ond i Casey, "mae hyn wedi'i ddinistrio gan eich penderfyniad i yrru cerbyd mawr mewn modd cwbl hurt".
Wrth geisio pasio car mewn ffordd beryglus, ychwanegodd, fe "wrthdrawodd â merch hapus bump oed ar sgwter gan ei gadael, diolch byth, gydag anafiadau corfforol cymharol fach a allai fod wedi bod yn anafiadau difrifol iawn yn hawdd neu y gallai hi fod wedi cael ei lladd".
Dywedodd y barnwr y dylai Casey "fod yn chwarae gyda ffrindiau ac yn lle hynny mae hi'n mynd i gwnsela".
Wrth ddedfrydu Dwyer i 14 mis yn y carchar, dywedodd y barnwr ei fod wedi gwneud "penderfyniad hunanol i yrru car nad oedd gennych hawl i'w yrru o gwbl" a "phenderfyniad llwfr i yrru i ffwrdd a gadael y cerbyd".
Bydd Dwyer hefyd yn cael ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd ar ôl iddo gwblhau ei ddedfryd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2024