'Mae'n codi ofn arna i, ond mae stoma wedi achub fy mywyd'

Disgrifiad,

"O’n i ffaelu symud mas o’r gwely... O’n i mewn gymaint o boen"

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw ifanc o Abertawe’n dweud iddi orfod mynd i’r tŷ bach 20 gwaith y dydd a methu codi o’r gwely cyn cael bag stoma.

Fe gafodd Sophia Haden, 18, ddiagnosis o golitis briwiol (ulcerative colitis) y llynedd.

Roedd ei chyflwr yn ddifrifol, ac o fewn rhai misoedd bu’n rhaid cael llawdriniaeth a ffurfio stoma.

Mae’n wynebu ail lawdriniaeth yn yr haf - fydd yn golygu fod ganddi fag stoma am byth.

“O’n i ffaelu rili symud mas o’r gwely. O’n i mewn gymaint o boen,” meddai Sophia.

“O’n i’n meddwl taw poenau period oedd e i ddechrau.

“Ond bydden i’n mynd i’r tŷ bach tua 20 gwaith y dydd… am 20 munud.

“Doedd paracetamol ddim yn helpu. Yr unig beth oedd yn helpu oedd morphine yn yr ysbyty."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Sophia, mae'r cyflwr yn "cymryd popeth allan ohonoch chi"

Fe gafodd Sophia lawdriniaeth ym Mehefin 2023 i dynnu rhan o’i choluddyn mawr, a olygodd fod ganddi fag stoma dros dro.

Ond mae ei symptomau wedi gwaethygu eto.

“Yn ddiweddar fi ‘di dechrau dirywio eto a dyna pam 'dw i’n mynd i gael y llawdriniaeth nesaf yn yr haf," meddai.

“Bydd fy stoma yn barhaol. Ma’ hwnna’n amlwg yn beth mawr.

“O ran iechyd meddwl, mae 'na rai diwrnodau lle dw i’n chuffed bo’ fi wedi cael y bag, ond rhai lle mae’n teimlo bod bywyd wel, jyst wedi gorffen.”

Beth yw'r cyflwr?

  • Cyflwr hirdymor yw colitis briwiol, sy’n effeithio ar y coluddyn mawr;

  • Gall briwiau bach ddatblygu, gan ryddhau gwaed;

  • Mae’n gallu effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd, ond y symptomau mwyaf cyffredin yw dolur rhydd, gwaedu, poenau yn y stumog a blinder eithriadol;

  • Mae meddyginiaeth yn gallu lleddfu’r cyflwr, ond i nifer, mae angen llawdriniaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sophia wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o'i chyflwr ar y cyfryngau cymdeithasol

Er i Sophia gael diagnosis yn gyflym, mae nifer, yn ôl elusen Crohn’s & Colitis UK, sydd yn gorfod aros yn hir.

Mae mwy na 26,000 o bobl yn byw â’r cyflyrau yng Nghymru.

“Mae’n gwneud fi’n drist bod cymaint o bobl yn aros cymaint o amser ar gyfer triniaeth a diagnosis," ychwanegodd Sophia.

“Ges i driniaeth a diagnosis yn eitha’ clou achos o’dd fy nghyflwr i mor wael ar y pryd.

“Ond petai fi wedi bod yn y sefyllfa 'na – aros dwy, tair blynedd am lawdriniaeth – genuinely 'dw i ddim yn credu fydden i wedi gallu gwneud e.

“Mae’n gyflwr sy’n cymryd popeth allan ohonoch chi. Chi mor flinedig drwy’r amser, chi’n colli gymaint o waed.”

'Fi dal yr un person'

Mae Sophia wedi bod yn codi ymwybyddiaeth am ei chyflwr ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Cyn o’n i 'di cael stoma fi, o’dd dim clem 'da fi beth o’dd e.

“Ma' hwnna’n rhan o’r broblem. Does dim llawer o ymwybyddiaeth.

“Be’ fi’n hoffi ‘neud yw dangos i bobl sut y’f fi nawr, ac wedyn sut y’f fi gyda’r stoma. Fi dal yr un person.

“Mae e’n codi ofn arna’ i, ond fi jyst yn trio cofio o’dd y stoma yma wedi achub fy mywyd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda’r gwasanaeth iechyd i wella gwasanaethau i bobl sydd â Chlefyd Llid y Coluddyn (IBD).

“Mae hyn yn cynnwys cyflwyno llwybr cenedlaethol ar gyfer gwneud diagnosis o IBD i bob bwrdd iechyd yng Nghymru, datblygu gallu endosgopi ychwanegol sylweddol i gefnogi ymchwilio i glefyd fel IBD, a sefydlu trefniadau arweinyddiaeth cenedlaethol newydd ar gyfer gwella gwasanaethau IBD fel rhan o Weithrediaeth y GIG.”

Pynciau cysylltiedig