Galw am fuddsoddiad MS yng Nghymru ar ôl diagnosis mam
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Sir Gaerfyrddin yn galw am fwy o ymchwil i barlys ymledol - neu multiple sclerosis - yng Nghymru wedi i'w mam gael diagnosis o'r cyflwr.
Cafodd Bethan James, 51, mam Ceris, ddiagnosis o MS yn 2022 ar ôl profi nifer o symptomau.
Nid oes triniaeth ar gyfer y math o MS sydd gan Bethan, sy'n 51 oed.
Ond mae Ceris yn "rhwystredig" am y diffyg buddsoddiad mewn triniaethau MS yng Nghymru.
Mae hi a gweddill cymuned wledig Trelech wedi codi dros £8,000 at MS Cymru.
Mewn datganiad, dywedodd MS Cymru bod "llawer o bobl yn cael trafferth cael mynediad at y triniaethau y maen nhw eu hangen".
Symptomau wedi dechre 'flynydde yn ôl'
Er mai yn 2022 y cafodd Bethan ddiagnosis o MS, dywedodd Ceris fod symptomau ei mam wedi dechrau "flynydde yn ôl".
Roedd y rhain yn cynnwys "symptomau pins and needles, 'oedd hi'n cwympo yn rhwydd, pethau bach... ro'n ni ddim yn poeni gormod ar y pryd, ddim yn meddwl dwywaith amdano fe".
Fe esboniodd fod y math o MS sydd ar ei mam yn golygu y bydd ei chyflwr yn gwaethygu gydag amser, ond nad ydyn nhw'n gwybod pa mor sydyn y bydd hi'n dirywio.
Ychwanegodd "ar hyn o bryd yng Nghymru does dim triniaeth am Primary Progressive MS... er bod lot o dreialon clinigol yn mynd ymlaen, does dim scientifically proven treatments ar hyn o bryd".
Dywedodd Ceris: "Doedd dim un o'n ni wedi clywed am MS o'r blaen, dim un o ni'n rili deall beth oedd e [nac yn deall] beth oedd yn mynd i ddigwydd iddi."
Er iddi gyfaddef bod chwilio am y symptomau ar y we yn gallu gwneud iddi "ddod ar draws pethau weddol dywyll", dywedodd ei bod hi'n "trio cadw'n bositif".
Erbyn hyn mae Bethan yn ei gweld hi'n anodd cerdded a gwneud tasgau o gwmpas y tŷ, ac wedi gorfod cwtogi tipyn ar ei horiau gwaith.
Dywedodd Ceris fod y salwch nid yn unig wedi effeithio ar yr elfennau corfforol, ond yn feddyliol "i Mam yn bennaf, ond i ni fel teulu hefyd".
Trafferth cael triniaeth
Er bod MS Cymru yn dweud bod tua 5,600 o bobl yn byw gyda pharlys ymledol yng Nghymru ar hyn o bryd, mae diffyg ymwybyddiaeth o’r cyflwr yn rhywbeth y mae Ceris wedi sylwi arno.
"Beth o'n i wedi ffeindio'n anodd ar y dechre yw bod pobl ddim yn ymwybodol o beth oedd MS... o'n ni ddim fy hunan," meddai.
Dywedodd fod y ffaith bod pob claf yn profi symptomau gwahanol gydag MS yn ei gwneud hi'n anodd i bobl ddeall y cyflwr.
A hithau'n ddiwedd wythnos codi ymwybyddiaeth MS, mae Cyfarwyddwr MS Cymru, Shelley Elgin yn dweud bod nifer yn "cael trafferth cael mynediad at y driniaeth y maen nhw eu hangen".
Aeth ymlaen i ddweud mai "cyfyng" yw'r triniaethau ar gyfer y fath o MS sydd gan Bethan James.
Mae Ceris a gweddill cymuned Trelech yn Sir Gâr bellach wedi codi dros £8,000 at MS Cymru, ac mae'n diolch yn fawr i'w theulu a'r gymuned am y gefnogaeth.
Dywedodd mai'r rheswm aeth ati i godi'r arian oedd "frustration, achos pan gelo ni wybod bod dim triniaeth am y teip o MS sydd 'da Mam, o ni'n gwybod bod rhaid i fi 'neud rhywbeth i helpu".
Dywedodd mai wrth gofrestru i redeg Hanner Marathon Caerdydd er mwyn codi arian at yr elusen oedd y tro cyntaf iddi siarad yn gyhoeddus am ddiagnosis ei mam.
"Cyn hynny doedd hi ddim ishe bod lot o bobl yn gwybod, dim eisiau tynnu sylw, achos dyw e ddim yn rhywbeth mae pobl yn ei ddeall yn iawn."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl sy'n byw gyda chyflyrau fel MS yn cael "cymorth i fyw eu bywydau gorau, yn ogystal â chael mynediad teg ac amserol at wasanaethau o ansawdd uchel ac at wybodaeth sydd ei hangen i gyflawni eu potensial".