Cannoedd mewn gêm deyrnged i reolwr CPD Y Felinheli

Euron Wyn DaviesFfynhonnell y llun, Clwb Pêl-droed Y Felinheli
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Euron Wyn Davies yn 46 oed dros y penwythnos

  • Cyhoeddwyd

Daeth dros 300 o bobl ynghyd i roi teyrnged i reolwr tîm cyntaf Clwb Pêl-droed Y Felinheli cyn eu gêm yn erbyn Nantlle Vale nos Fercher.

Bu farw Euron Wyn Davies yn 46 oed dros y penwythnos.

Fel arwydd o barch fe gafodd gêm y clwb, sy'n chwarae yn nhrydedd haen pêl-droed Cymru, yn erbyn Mynydd y Fflint ddydd Sadwrn ei gohirio.

Penderfynodd y clwb y byddai'r holl arian sy'n cael ei godi yn y gêm ar Gae Seilo nos Fercher yn cael ei roi tuag at Gronfa Goffa Euron Davies.

Fe gafodd torch o flodau ei chario i'r maes, ac fe gynhaliwyd munud o gymeradwyaeth cyn y gic gyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Ifan Emyr, mae'r cyfan wedi rhoi pêl-droed mewn persbectif

Yn ôl Ifan Emyr, is-gapten Clwb Pêl-droed Y Felinheli, mae'r effaith a gafodd Euron Davies ar y clwb yn "anhygoel".

"O'dd o'n sioc fawr, oedda' ni'n gwybod ynghynt ei fod o 'di daro'n wael ond doeddan ni'm yn disgwyl hyn," meddai.

"'Da ni'n griw reit agos beth bynnag, ond ma' hyn wedi dod â ni'n agosach at ein gilydd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd modd i bobl roi teyrnged i Euron Davies yn ystod y gêm nos Fercher

"Ma'r trawsnewidiad yn y degawd diwethaf wedi bod yn anhygoel - mae'r gwahaniaeth ar ac oddi ar y cae yn anhygoel.

"Gena ni dair gem ar ôl rŵan, a 'sa'n neis 'neud o i Euron... ennill y gemau yma, ac aros yn y gynghrair."

Ychwanegodd fod y cyfan wedi rhoi pêl-droed mewn persbectif.

"'Neud o am yr hwyl 'da ni, a ma'n meddyliau ni'n mynd allan i'r teulu - nhw sy'n bwysig."

Dywedodd Gwilym John, dirprwy ysgrifennydd ac aelod o bwyllgor y clwb, fod y dyddiau diwethaf wedi bod yn "emosiynol iawn".

"'Da ni 'di penderfynu gwneud hon yn gêm deyrnged iddo fo," meddai.

"O'dd pawb yn ei 'nabod o, dim jest Y Felinheli. O'dd o'n reit enwog drwy pêl-droed gogledd Cymru i gyd.

"Bydd bob dimau fydd yn dod o'r pris mynediad a phopeth yn mynd i gronfa goffa Euron, a fyny i'r teulu wedyn i wneud be fynnon nhw efo'r pres."

Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr yn ystod y funud o gymeradwyaeth ar Gae Seilo

Ychwanegodd fod Euron wedi addo yn wreiddiol y byddai'n rheoli'r clwb am dair blynedd, ond ei fod wedi aros am 14 yn y pendraw.

"Oeddan ni yn [cynghrair] y Caernarfon District bryd hynny, ac yn stryglo," meddai Gwilym.

"Mae o 'di tynnu'r clwb o'r gwaelodion, a rywsut neu'i gilydd 'da ni 'di landio yn nhrydedd haen y pyramid Cymraeg.

"'Di ddim wedi bod yn hawdd, ond 'da ni 'di aros yma a 'di dangos ein gwerth, ac mae hynny i gyd diolch i Euron."

Pynciau cysylltiedig