Cyfarwyddwr ariannol yn gwadu twyllo dros £500,000 o gartref gofal

Karen MurrayFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Mae Karen Murray wedi'i chyhuddo o dwyllo Canolfan Gofal East Park o dros £500,000

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfarwyddwr ariannol cartref gofal wedi gwadu twyllo'r cartref o dros hanner miliwn o bunnoedd.

Mae Karen Murray, 57, o Prospect Place, Hwlffordd, yn wynebu naw cyhuddiad, gan gynnwys chwech o dwyll drwy gamddefnyddio swydd.

Mae wedi ei chyhuddo o dwyllo Canolfan Gofal East Park yn Jeffreyston, Cilgeti, Sir Benfro o £506,015.58 rhwng 2013 a 2024.

Mae Ms Murray hefyd yn wynebu tri chyhuddiad yn ymwneud â Deddf Ffugio 1981, drwy ffugio llofnodion tri pherson rhwng 2013 a 2018.

Canolfan Gofal East ParkFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Canolfan Gofal East Park yn Jeffreyston, Cilgeti

Mae hefyd yn wynebu honiadau o ffugio llofnodion ar gais am fenthyciad, ar ffurflen ymddiswyddiad cyfarwyddwr, ac ar gyfrifon cwmni.

Wrth ymddangos yn Llys y Goron Abertawe fore Gwener plediodd yn ddieuog i bob un o'r naw cyhuddiad.

Mae Ms Murray wedi'i rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod tan yr achos ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.