Gêm gyfartal i Forgannwg a Sir Gaerlŷr ar ôl glaw

Michael NeserFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Y cyfanswm o 176 gan Michael Neser oedd sgôr uchaf ei yrfa hyd yma

  • Cyhoeddwyd

Gêm gyfartal oedd hi rhwng cricedwyr Morgannwg a Sir Gaerlŷr yng Nghaerdydd, wedi i'r tywydd gyfyngu ar y chwarae.

Doedd dim chwarae o gwbl ar y diwrnod cyntaf oherwydd glaw, a dim ond 17 pelawd fu ar yr ail ddiwrnod.

Cafodd Morgannwg ddechrau trychinebus i'r trydydd diwrnod gan gael eu cyfyngu i 93-7.

Ond diolch i ymdrechion arwrol Michael Neser (176), Mitchell Swepson (69) a James Harris (47), llwyddon nhw i gyrraedd cyfanswm o 403-9 yn y pendraw cyn dod â'u batiad i ben.

Yn eu hymateb nhw fe aeth Sir Gaerlŷr tu hwnt i gyfanswm Morgannwg, a chyrraedd 451-6 cyn i'r chwarae ddod i ben ar y diwrnod olaf ddydd Iau.

Ond gyda chyn lleied o chwarae wedi digwydd dros y dyddiau cyntaf, roedd hi wastad yn anochel mai gêm gyfartal fyddai'r canlyniad.

Pynciau cysylltiedig