Gwrthdrawiad difrifol yn achosi tagfeydd ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth gwrthdrawiad difrifol gau rhan o'r M4 ac achosi tagfeydd sylweddol i deithwyr fore Llun.
Digwyddodd y gwrthdrawiad yr ochr arall i Bont Tywysog Cymru yn Lloegr, ac fe gafodd rhan o'r draffordd ddwyreiniol i'r gogledd o Fryste ei chau rhwng cyffordd 21 a 22 yn oriau man y bore.
Cadarnhaodd yr heddlu bod dwy ddynes wedi marw yn y digwyddiad, a thri pherson arall yn yr un car wedi cael triniaeth ysbyty.
Mae tri dyn oedd yn teithio mewn cerbyd arall wedi eu harestio ar ôl cael gofal meddygol.
Roedd tagfeydd sylweddol i draffig yn teithio i'r dwyrain o Gymru i Loegr, a hynny ar y ddwy bont Hafren.
Roedd ciwiau hir yn ardal cyffordd 23A Magwyr, ac ar yr M48 wrth i gerbydau geisio osgoi'r M4.
Roedd traffig hefyd yn drwm ar lawer o ffyrdd ardal Cas-gwent yn sgil y digwyddiad.