Dylunio Coron yr Eisteddfod yn 23 oed yn 'freuddwyd'

Elan Rhys Rowlands Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Elan yw un o'r ieuengaf erioed i ddylunio Coron yr Eisteddfod Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd

A hithau ond yn 23, Elan Rhys Rowlands o Gaernarfon yw un o'r ieuengaf erioed i ddylunio Coron yr Eisteddfod Genedlaethol.

Wedi graddio o Brifysgol Birmingham, dywedodd mai dylunio'r goron oedd y "job gynta', yn yr wythnos gynta'" ar ôl dechrau yn ei swydd gyda chwmni Neil Rayment Goldsmiths.

Wrth gydweithio â'r cwmni i greu'r goron, dywedodd ei bod yn "teimlo mor lwcus" o gael cyfle o'r fath mor gynnar yn ei gyrfa.

Mae'n gobeithio gweld mwy o gyfleoedd i bobl ifanc i arbenigo yn y maes yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Elan yn cyflwyno'r goron mewn digwyddiad arbennig nos Iau

Dywedodd fod ei diddordeb mewn creu gemwaith a gwaith metel wedi cychwyn pan oedd yn ifanc iawn.

"Pan o'n i'n fach o'n i wastad yn y gweithdy efo dad... mae o yn y teulu, 'da ni gyd yn bobl greadigol, dyna o le ddaeth yr angerdd tuag at weithio efo metel."

Aeth ymlaen i ddweud mai ennill cystadleuaeth gemwaith yn Eisteddfod yr Urdd tra ym mlwyddyn 9 yn yr ysgol oedd yr "hwb" i barhau â'i breuddwyd.

Er iddi astudio celf yn yr ysgol a chwrs pellach yng Ngholeg Menai, dywedodd: "Roedd yn rhaid i fi fynd tu allan i Gymru i Birmingham i gael fy trainio."

Dywedodd fod hyn yn arwydd o'r diffyg cyfleoedd yng Nghymru i bobl ifanc sydd am weithio yn y maes.

"Dwi ddim yn meddwl fod 'na ddigon o gyfleoedd yn y maes da ni'n arbenigo mewn," meddai.

'Dwi'n teimlo mor lwcus'

Wrth gofio nôl i'r diwrnod pan gafodd Elan wybod mai hi, ynghyd â Neil Rayment Goldsmiths, fydd yn dylunio'r goron, dywedodd: "O'n i jyst methu credu fo, achos ti jyst byth yn gwybod be i ddisgwyl o gyfweliad ac wedyn pan 'nathon nhw adael fi wybod o ni jyst fath â waw".

Aeth ymlaen i ddweud: "Ro' ni methu credu fo achos mae o wastad wedi bod yn rhywbeth dwi isio gynhyrchu ac i neud hynny mor gynnar yn fy ngyrfa, dwi'n teimlo mor lwcus".

Dywedodd mai dyma oedd y swydd gyntaf iddi orfod gwneud ar ôl cychwyn gyda chwmni Neil Goldsmiths fis Hydref.

Wrth sôn am y goron ei hun dywed ei bod wedi "plethu hanes yr ardal i mewn" gyda "thonnau sain yr anthem" fel strwythur i'r goron.

A hithau'n edrych ymlaen at gael bod yn yr Eisteddfod, dywedodd eu bod wedi creu casgliad o emwaith gydag "off-cuts" y goron i'w gwerthu yno.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r Goron y mae Elan a Neil Rayment Goldsmiths wedi ei dylunio ar y cyd

Dywedodd bod cynhyrchu'r goron wedi bod yn "dipyn o gamp" ond ei fod yn "brofiad amhrisiadwy fel prentis i ddysgu gan grefftwr sydd hefo 30 mlynedd o brofiad sylweddol yn y diwydiant" gan ychwanegu ei bod yn "ddiolchgar iawn" iddo.

Wrth edrych ymlaen at ei dyfodol fel dylunydd, dywedodd y byddai wrth ei bodd yn cael "gwneud coron arall. Fysa hynna'n grêt!"