Cyhuddo dyn o droseddau gyrru wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Stryd Minny yn gynnar fore Sul wedi i gar daro cerddwraig 60 oed
- Cyhoeddwyd
Bydd dyn 32 oed yn ymddangos ger Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun wedi'i gyhuddo o nifer o droseddau gyrru ar ôl i ddynes 60 oed gael ei tharo gan gar yn y brifddinas.
Am 01:00 fore Sul, 3 Mawrth, fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw i Stryd Minny yn ardal Cathays wedi gwrthdrawiad rhwng car â cherddwraig.
Mae'r ddynes yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Mae Marcus Frankie Falzon, 32 oed o'r Rhath, wedi cael ei gyhuddo o nifer o droseddau gyrru gan gynnwys gyrru heb drwydded, gyrru heb yswiriant, ceisio pasio car arall mewn ffordd ymosodol a methu â stopio ar ôl damwain.
Mae hefyd wedi'i gyhuddo o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus, gyrru dan ddylanwad alcohol a methu â rhoi gwybod am ddamwain ffordd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2024