Menyw yn sownd mewn ysbyty yn Nhwrci wedi ffrae yswiriant

Cerys Rees yn yr ysbytyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cerys Rees yn yr uned gofal dwys yn Ysbyty Prifysgol Baskent ar hyn o bryd

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu menyw a gafodd ei tharo'n wael yn Nhwrci yn dweud ei bod methu â gadael yr ysbyty yn sgil anghytundeb gyda'i chwmni yswiriant.

Roedd Cerys Rees, 34 o Bontypridd, ar fin hedfan adref o Antalya pan gafodd drawiad (seizure), a bu'n rhaid iddi fynd i uned gofal dwys.

Yn ôl ei theulu, mae'r cwmni yswiriant yn gwrthod talu'r bil gan honni nad oedd wedi datgan bod ganddi epilepsi.

Dywed y cwmni, White Horse Insurance Ireland, eu bod "yn ymwybodol o'r amgylchiadau anodd sy'n wynebu Cerys a'i theulu ond... ni allwn roi sylw ynghylch achosion unigol penodol".

Yn ôl ei chwaer, Rhianna Boundford, nid yw Ms Rees erioed wedi cael diagnosis epilepsi, "sef pam na wnaeth hi ddatgan hynny".

'Edrych yn ofnadwy'

Roedd Ms Rees wedi mynd i Antalya ar 18 Mehefin i wasgaru llwch ei gŵr, a fu farw o ganser yn gynharach eleni.

Diwrnod cyn ei hediad yn ôl i'r DU fe gafodd drawiad a'i chludo i uned gofal dwys yn Ysbyty Prifysgol Baskent.

Mae angen ei monitro'n fanwl, medd ei theulu, am ei bod yn cael trawiad bob yn ail diwrnod, ac ar ôl ymweld â hi, dywed ei chwaer ei bod wedi "fferru gan ofn" ynghylch ei chyflwr.

"Roedd Cerys yn edrych yn ofnadwy ac yn mygu oherwydd y trawiadau," meddai Ms Boundford.

"Fe gafodd CPR sawl tro wrth i'w chalon stopio curo."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cerys Rees cyn iddi gael ei tharo'n wael

Dywed Ms Boundford bod ei chwaer, sy'n gweithio fel gofalwr, wedi cael trawiad yn 2002 wedi i yrrwr meddw daro hi a'i gŵr.

Roedd meddygon, meddai, yn credu taw straen oedd wrth wraidd hynny, ag fe gafodd ddiagnosis lwpws (lupus).

Roedd Ms Rees wedi gwneud addewid i'w gŵr cyn ei farwolaeth y byddai'n gwasgaru ei lwch ymhob gwlad roedd hi'n ymweld â nhw, ac fe deithiodd i Antalya.

Fe ddywedodd meddygon wrth Ms Boundford mai lwpws oedd yn achosi'r trawiadau, gan gynghori iddi ddychwelyd i'r DU am ofal fwy arbenigol.

Fe gysylltodd â chwmni yswiriant ei chwaer ac mae hi'n dweud bod nhw wedi gwrthod talu costau meddygol ei chludo o Dwrci.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed chwaer Cerys Rees ei bod yn poeni'n ddirfawr am ei chyflwr

Dywed Ms Boundford bod meddygon yn Nhwrci wedi bwriadu rhoi Cerys mewn coma ar gyfer y daith i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, gan ofyn am ambiwlans awyr gan nad oedd modd atal ei thrawiadau.

Ond mae'r teulu wedi cael gwybod, meddai, y byddai ambiwlans awyr preifat yn costio £40,000.

Mae'n anodd siarad gyda Cerys, meddai, am ei bod ond yn deffro i gymryd meddyginiaeth, ac mae ei bwydo trwy'r gwythiennau bellach "yn boenus".

Mae hi bellach mewn cyflwr difrifol, ac mae ei chwaer wedi creu tudalen codi arian er mwyn ceisio ei chludo adref ar frys.

Ychwanegodd: "Ry'n ni'n mynd i'w cholli hi os na chawn ni hi'n ôl adref am ofal arbenigol."

Pynciau cysylltiedig