Gwyliau haf 'yn teimlo'n hir' i ofalwyr ifanc

Nyfain a'i thadFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nyfain, 10, yn ofalwr ifanc i'w thad, Ger, sy'n byw â chyflwr prin Friedreich's Ataxia

  • Cyhoeddwyd

Mae’r gwyliau haf yn gyfnod hir ac unig, yn ôl gofalwyr ifanc ac elusennau sy’n eu cefnogi.

Mae Isac, 13 o Fargoed ger Caerffili, yn gofalu am ei fam, sy’n defnyddio cadair olwyn, a’i ddwy chwaer.

“Dw i’n rhoi bwyd arno, glanhau a rhoi fy chwiorydd i’r gwely,” meddai.

Er ei fod yn gwybod pa mor bwysig yw ei rôl, mae’n dweud ei fod yn poeni y bydd yr haf yn anodd ymhell o gefnogaeth yr ysgol.

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru’n dweud bod "bwlch" wrth bontio rhwng tymor yr ysgol a'r gwyliau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi er mwyn sicrhau seibiannau byr a gweithgareddau i ofalwyr ifanc.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Isac, 13, yn gofalu am ei fam sy'n defnyddio cadair olwyn

Fe newidiodd bywyd Isac ddwy flynedd yn ôl pan gafodd ei fam lawdriniaeth ar ei chefn wnaeth arwain at ddifrod i’w nerfau.

Mae’n golygu ei bod yn gorfod defnyddio cadair olwyn ac mai ei mab sy’n gorfod gofalu amdani a’i merched, sy’n chwech a phedair oed.

“Mae’n gallu bod yn anodd, mae’n gallu gwneud i ti deimlo’n unig,” dywedodd Isac.

“Ond hefyd, mae’n deimlad da bod ti’n gwbod bo’ ti’n gallu helpu.

“Weithie' fi’n teimlo bod fi eisiau cael bywyd normal a mynd mas gyda ffrindiau.”

Mae’n poeni am y cyfnod o chwech wythnos o wyliau gan fod llawer o gefnogaeth iddo yn Ysgol Cwm Rhymni.

“Mae’n rhoi cyfle i fi, os oes rhywbeth ar fy meddwl, i siarad a chael e bant o’r meddwl.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nyfain, 10, yn edrych ymlaen i beidio gorfod gwneud gwaith ysgol ond yn poeni am beidio gweld ei ffrindiau yn aml

Yn Hwlffordd, Sir Benfro, mae Nyfain, sy’n ddeg oed, yn cytuno bod cyfnod o wyliau’n gallu bod yn anodd.

Mae’n gofalu am ei thad sy’n byw â chyflwr prin Fredreich’s Ataxia, sy’n gwaethygu dros amser, ac sy’n golygu ei fod yn defnyddio cadair olwyn.

“Dyw e ddim yn gallu symud coesau’n dda, a bad hand coordination,” meddai.

“Yn y bore dwi’n rhoi tabledi i Dad, gwneud te, a wedyn weithiau dw i’n chwarae gyda fe.

“Dw i’n helpu fe i fwyta… a helpu gyda’r ci lot.”

Dywedodd nad yw’n gallu mynd i chwarae gyda’i ffrindiau yn aml.

“Mae’n teimlo’n hir [yr haf].”

Disgrifiad o’r llun,

Mae pennaeth cynorthwyol Ysgol Caer Elen, Elen Griffiths, yn dweud bod cefnogaeth ar gael i ofalwyr ifanc yn yr ysgol

Mae gan yr ysgol mae Nyfain yn ei mynychu, Ysgol Caer Elen, ddeuddeg gofalwr ifanc yn ddisgyblion yno ar hyn o bryd.

Dywedodd y pennaeth cynorthwyol, Elen Griffiths, fod yr ysgol yn chwarae rôl bwysig yn eu cefnogi yn ystod y tymor.

“Mae sefyllfaoedd cartref pawb yn wahanol, ond mae’n bwysig bo’ ni fel ysgol yn ymwybodol o’r hyn ma’ nhw’n delio gyda gartref,” dywedodd.

“Ma’ hynny er mwyn bo’ ni’n gallu gweithio gyda nhw yn yr ysgol.”

Mae elusen Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru’n rhybuddio bod yn rhaid i ofalwyr ifanc gael cyfleoedd am seibiannau byr dros yr haf.

“Mae e wastad yn bryder i ni bod 'na ddim digon o gefnogaeth i ofalwyr ifanc,” dywedodd eu Pennaeth Materion Allanol, Catrin Edwards.

“Maen nhw’n gwneud gymaint i bobl ma' nhw’n cefnogi yn eu teuluoedd. Yn yr ysgol, ma’ nhw’n cael cyfle i gymdeithasu, cyswllt gyda athrawon sy’n eu hadnabod.

“Ond pan ddaw y gwyliau haf, ma na fwlch o bosib, ac mae’n bosib y bydd y gofalwyr ifanc hynny yn gwneud fwy o oriau o ofalu.”

Cyfleoedd chwaraeon, hamdden a chymdeithasol

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod pwysigrwydd seibiannau i ofalwyr ifanc.

"Mae ein cronfa seibiannau byr o £9m yn darparu 30,000 o gyfleoedd ychwanegol i ofalwyr o bob oed gymryd rhan mewn chwaraeon, hamdden neu weithgareddau cymdeithasol.

"Rydym hefyd wedi cefnogi tair gŵyl flynyddol ar gyfer gofalwyr ifanc a fydd yn cael ei chynnal ym mis Awst – cyfle i fwynhau eu hunain heb unrhyw bryderon ariannol.

"Gall gofalwyr ifanc hefyd gael mynediad i’r Gronfa Cymorth i Ofalwyr, sy’n rhoi grantiau i ofalwyr di-dâl ar incwm isel i brynu eitemau hanfodol.”