Gofalwyr ifanc: 'Joio edrych ar ôl Mam ond rhaid cael cefnogaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae gofalwyr ifanc yn teimlo'n unig ac o dan straen wrth iddynt orfod gofalu am berthnasau am fwy o oriau ers Covid, medd arolwg newydd gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr.
O'r rhai a holwyd dywedodd o leiaf traean eu bod yn teimlo'n 'bryderus' (36%), yn 'unig' (33%) neu 'o dan straen' (42%) wrth iddynt ofalu am berthynas a bod y sefyllfa wedi gwaethygu ers Covid gan bod, yn aml, llai o ofal cymdeithasol ar gael.
Dywedodd 40% nad oedd ganddynt rywun i siarad â nhw yn yr ysgol am fod yn ofalwr ifanc ac roedd 23% yn teimlo nad oeddent yn gallu siarad am eu teimladau o gwbl.
Mae tua 30,000 o ofalwyr ifanc yng Nghymru.
Stori Tom, 13 - 'Does gan bobl yn yr ysgol ddim syniad pa fath o fywyd sydd gen i'
Mae Tom o Lanelli ac sy'n ddisgybl 13 oed yn Ysgol Bro Dinefwr yn edrych ar ôl ei fam Charlotte ac mae gan ei dad hefyd broblemau iechyd.
"Fi'n joio edrych ar ôl Mam," meddai Tom, wrth siarad â Cymru Fyw, "ond ro'dd hi'n anodd yn y cyfnod clo.
"Ro'dd yn rhaid i'r gefnogaeth arferol sy 'na i fi gan Young Carers stopio a doeddwn i ddim yn gallu siarad â fy ffrindiau yn yr ysgol. Mae gan Mam broblemau cefn difrifol - mae hi mewn cadair olwyn.
"Dwi felly yn 'neud tipyn o waith o gwmpas y tŷ - fi'n hwfro, 'neud y golchi, gofalu ar ôl anifeiliaid anwes ac yn y cyfnod clo pan o'n i adre' roeddwn yn paratoi lot o'r bwyd.
"Fi hefyd yn mynd â bwyd a diod i Mam. Mae Young Carers yn helpu fi lot ac mae cael cefnogaeth yn bwysig.
"Mae'n gallu bod mor anodd. Yn aml fi mo'yn mynd mas a 'neud pethe 'da ffrindiau ond dyw hynny ddim yn bosib.
"Mae'r cyfan yn gallu ca'l fi lawr ambell waith ond mae'n bwysig hefyd fod pobl eraill yn gwybod be' mae e fel - does gan bobl yn yr ysgol ddim syniad pa fath o fywyd sydd gen i."
Dywedodd mam Tom, Charlotte, bod cael help Tom yn hanfodol.
"Dwi ddim yn gwybod be fuaswn i'n gwneud hebddo," meddai.
"Mae fy ngŵr yn gweithio yn llawn amser ond mae ganddo fe gyflwr sy'n achosi poen cefn difrifol.
"Yr hyn ddigwyddodd i fi oedd cael damwain ugain mlynedd yn ôl ac anafu fy nghefn yn ddifrifol - dwi wedi cael poenau ers hynny ond ers pum mlynedd dwi mewn cadair olwyn yn llawn amser wedi i fy nghyflwr waethygu.
"Dwi hefyd wedi cael Covid hir yn y misoedd diwetha' a ddim wedi bod mas o'r tŷ ers mis Awst."
Mae dydd Mercher, 16 Mawrth yn Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc - diwrnod sy'n codi ymwybyddiaeth o'r pwysau a brofir gan ofalwyr ifanc.
Yn eu plith mae plant sy'n gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind sy'n sâl, yn anabl neu'n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol.
'Torcalonnus'
"Mae canfyddiad yr arolwg yn dorcalonnus i ddweud y gwir," medd Catrin Edwards, Pennaeth Materion Allanol Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.
"Ry'n yn gweld bod llawer mwy o alw ar ofalwyr ifanc ers i ni gynnal yr arolwg diweddaraf yn 2020. Mae'r arolwg newydd sy'n gofyn am brofiad gofalwyr yn 2021 yn dangos bod llawer mwy yn wynebu straen ac yn unig.
"Mae'r gwaith ma'n nhw'n 'neud yn hynod werthfawr, mae eu teuluoedd yn gwerthfawrogi ond mae'n ymddangos nad oes cyfle i lawer siarad am eu profiad y tu fas i'r cartref.
"Roedd yr arolwg yn un a gafodd ei gynnal ar draws y DU ond ry'n ni'n galw'n benodol ar ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i fynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy'n ofalwyr.
"Ein gweledigaeth ni yw fod gofalwyr di-dâl yn cyfrif ac y gallant ddod o hyd i'r help maen nhw ei angen i fyw eu bywydau."
Mae Ymddiriedolwyr Gofalwyr Cymru yn galw'n benodol ar i Lywodraeth Cymru:
Sicrhau mwy o seibiannau ac amser y tu allan i bobl ifanc sy'n ofalwyr;
Sicrhau bod gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn cael blaenoriaeth i gymorth iechyd meddwl;
Sicrhau bod darparwyr addysg yn mabwysiadu dull integredig o gefnogi gan hyrwyddo'r defnydd o Gardiau Adnabod Gofalwyr Ifanc.
Mae Kayleigh North o Borth Tywyn yn 22 oed ac yn edrych ar ôl eu rhieni, ei brawd 13 oed a'i chwaer bump oed.
"Dwi fy hun yn byw gydag epilepsi, mae fy mrawd hefyd ac mae gan fy chwaer gyflwr ar y galon.
"Mae Mam yn 43 ac yn dioddef o gyflwr ar ei hymennydd a salwch meddwl ac mae fy llys-dad yn disgwyl am lawdriniaeth ar ei goes.
"Fi sy'n 'neud y rhan fwyaf o bethau yn y cartref. Dwi'n ddiolchgar am bob cefnogaeth rwy'n ei gael ond ro'dd hi wir yn anodd y cyfnod clo jyst cael cefnogaeth ar Zoom. Mae'r gefnogaeth wyneb i wyneb 'na yn bwysig.
"Dyw pobl ddim yn sylweddoli beth yw byw heb gael break, byw heb gael yr awr fach 'na i fi fy hun."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2020