Tair telynores yn cryfhau'r berthynas rhwng Cymru ac India
- Cyhoeddwyd
Mae tair telynores o ogledd Cymru wedi bod ar daith i India yn ddiweddar, yn rhannu eu crefft o chwarae'r delyn yno.
Fe fuon nhw yno fel rhan o ddathliadau Cymru yn India 2024, sef menter i gryfhau cysylltiadau rhwng y ddwy wlad.
Ar y daith roedd Nia Davies Williams, Gwenan Gibbard a Catrin Morris Jones - tair telynores boblogaidd.
Trwy gynnal gwahanol weithgareddau fel gweithdai a chyngherddau yn ninas Shillong yng ngogledd-ddwyrain y wlad, maen nhw wedi magu perthynas gyda rhai o bobl y 'Casi' ym Mryniau Casia gerllaw.
Cyn y daith bu Catrin Morris Jones o Bwllheli yn dysgu'r delyn dros y we i bump o fyfyrwyr Prifysgol Martin Luther yn Shillong.
Roedd y daith felly yn gyfle iddi eu cyfarfod yn y cnawd o'r diwedd.
Dywedodd Catrin Morris Jones wrth BBC Cymru Fyw ei bod wedi mwynhau dod i 'nabod y criw yr oedd hi'n eu dysgu yn rhithiol am flwyddyn a hanner.
"Dwi 'di dod i 'nabod y pump yn weddol dda'n ystod yr amser yma, ond doeddan ni 'rioed 'di cyfarfod wyneb yn wyneb," meddai
"Newidiodd hynny ryw bythefnos yn ôl pan gychwynnodd Nia Davies Williams, Gwenan Gibbard a minna' ar ein taith i Fryniau Casia."
Cysylltiad sy'n mynd nôl canrifoedd
Esboniodd fod gan y dair delynores faes yr un i ganolbwyntio arno.
"O'n i'n brysur hefo dysgu a gweithdai, Nia yn mynd i ysbytai, Gwenan yn hyrwyddo Cymreictod, ac aethon ni gyd i un ysgol anghenion arbennig hefyd," meddai.
"Felly o'dd y dair ohono' ni'n arbenigo mewn meysydd gwahanol sy'n ymwneud hefo'r delyn.
"'Naethon ni gynnal gweithdai, cyngherddau hefo'r myfyrwyr, a cherddoriaeth Gymraeg."
O ble ddaeth y cyswllt rhwng Cymru a Shillong felly?
Eglurodd Catrin fod cysylltiad pobl y Casi a Chymru yn mynd yn ôl amser maith, ers i'r Eglwys Bresbyteraidd yrru cenhadon o Gymru draw i ogledd Shillong ganrifoedd yn ôl.
"Tua blwyddyn a hanner yn ôl, mi aeth Cefyn Burgess draw yno achos ei fod o'n ffrindia' hefo'r diweddar Mair Jones, telynores Colwyn.
"Ma' Cefyn yn artist tecstilia' ym Methesda."
Bu farw Mair Jones yn 2021.
'Telyn fach Geltaidd'
"Roedd gan Mair Jones delyn fach Geltaidd a'i dymuniad oedd iddi fynd i Fryniau Casia a gwnaed cyswllt gyda'r adran gerdd yno.
"Mae 'na dair telyn Geltaidd yn y brifysgol erbyn hyn.
"Felly 'naeth Cefyn hedfan allan yna, ac aeth Nia Davies Williams o ganolfan gerdd William Mathias hefo fo, i wneud gweithdai yno - a dewis pum myfyriwr.
"Rhain ydy'r myfyrwyr dwi 'di bod yn eu dysgu ers blwyddyn a hanner bellach."
Ychwanegodd Catrin fod pobl y Casi yn ystyried y Cymry fel y rhai wnaeth "achub eu hiaith", oherwydd bod y cenhadon Cymreig wedi eu helpu i ysgrifennu eu hwyddor flynyddoedd yn ôl.
Dyma'r trydydd gwaith i Nia Davies Williams ymweld â'r ardal, a dywedodd ei fod "mor braf cael cwmni Catrin a Gwenan y tro yma".
"Roedd yn wych cael perfformio ar lwyfan Gŵyl y Tri Hills, treulio mwy o amser gyda'r myfyrwyr, a chael dychwelyd i wardiau'r ysbyty i chwarae'r delyn," meddai.
"Mae'n hyfryd treulio amser gyda'r bobl Casi a chael cymaint o groeso ganddynt.
"Dwi'n gobeithio caiff y myfyrwyr ddod i Gymru ac i 'Steddfod Wrecsam yn 2025."
Y gobaith ydy croesawu'r myfyrwyr i Gymru rhyw ddydd, gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn darged naturiol i anelu tuag ato.
Ychwanegodd Catrin Morris Jones fod y myfyrwyr yn "desperate" i ddod draw i ymweld â Chymru, "ond mae hi wedi bod yn fwy ymarferol i ni fynd yno hyd yn hyn".
'Profiad bythgofiadwy'
Dywedodd Gwenan Gibbard y bu'r daith yn "brofiad bythgofiadwy".
"Dwi'n teimlo'n freintiedig o gael bod wedi cydweithio a chyd-berfformio efo'r cerddorion draw yna, a chael rhannu ein traddodiadau cerddorol efo'n gilydd," meddai.
"Mae pobl Bryniau Casia yn bobl tu hwnt o gynnes ac roedd y croeso gawsom ni yn arbennig iawn."
Cafodd y daith ei chefnogi gan y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru fel rhan o flwyddyn Cymru yn India Llywodraeth Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2024