Caneuon gwerin mae'n rhaid eu clywed
- Cyhoeddwyd
Eisiau gwybod mwy am gerddoriaeth werin ond dim syniad lle i ddechrau?
Gyda'r celfyddydau gwerin yn y newyddion wrth i ddeiseb alw am arian i'w cynnal, dyma gyflwyniad i rai o glasuron hen a modern y genre wedi eu dewis gan rai o gerddorion amlycaf y sin dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r ddeiseb, sydd wedi ei sefydlu gan y cerddor Owen Shiers ac yn cael ei chyflwyno i bwyllgor deisebau'r Senedd, yn galw am adfer cyllid craidd TRAC, y corff sy'n hyrwyddo artistiaid gwerin, ar ôl i'w grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru ddod i ben.
Dywed y cyngor celfyddydau eu bod wedi gorfod gwneud "penderfyniadau anodd" wedi "proses eithriadol o gystadleuol", a bod modd i sefydliadau aflwyddiannus geisio am gymorth cronfeydd eraill.
Cliciwch ar y lincs yn y darn i gael blas ar y gerddoriaeth. Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Beth Yw'r Haf i Mi - Merêd
Mae yna ddwsinau o recordiadau o'r gân draddodiadol yma, Beth Yw'r Haf i Mi, gan ystod eang o artistiaid. Fe ges i gyfle fy hunain i recordio fersiwn efo Pendevig, yn cydweithio gyda rhai o'r cerddorion gwerin ifanc fwyaf disglair yng Nghymru.
Mae fersiwn Pendevig yn un reit gyhyrog - mae naws drum and bass iddo, curiad cyflym a horns gordew a gitâr trydan grymus ond fersiwn arall dwi wedi dewis - perfformiad gan y Dr Meredydd Evans - sef Merêd wrth gwrs, oedd yn ysgolhaig a chasglwr caneuon gwerin yng nghanol y ganrif ddiwethaf.
Mae'r trac oddi ar yr albwm Welsh Folk Songs a recordiwyd yn Efrog Newydd ar label Folkways Records yn 1954 ac mae wedi dylanwadu ar sawl cenhedlaeth o gerddorion Cymreig ers hynny.
Ac i fi mae'r gân yma yn enghraifft wych o'r cysylltiad rhwng y traddodiad fel ag yr oedd o, ac agwedd mwyaf newydd, mwyaf cyffrous ein traddodiad ni fel y mae heddiw.
Iolo Whelan
Cob Malltraeth - Vrï, efo llais Beth Celyn
Y rheswm dwi wedi dewis hon ydi mod i'n meddwl ei bod yn gyfuniad perffaith o gymryd hen gân werin a rhoi ychydig o'r cyfoes ynddi.
Hefyd mae llais hyfryd a phwerus Beth Celyn yn cyd-fynd yn wych efo gwerin siambr Vrï.
Iestyn Tyne
Seidr Ddoe - Plethyn
Dwi am fynd yn ôl rai blynyddoedd am y trac dwi wedi dewis - Seidr Ddoe gan Plethyn, efo llais unigryw Linda Griffiths.
Mae'n cwmpasu sawl agwedd o ganu gwerin er nad ydi hi o reidrwydd yn drac traddodiadol.
Mae'n cyfuno geiriau da, cerddoriaeth dda a llais arbennig.
Ywain Myfyr
Bachgen Bach o Dincar - Yr Hwntws
Fe recordiodd Yr Hwntws hon yn 1982 ac fe gafodd ei recordio gan Merêd hefyd yn 1954.
Mae'n gân werin draddodiadol ac mae'n enghraifft o gân ddwy iaith, facaronic. Mae Yr Hwntws yn wych yn offerynnol, yn bendant, ond yn goron ar y cyfan i fi mae llais Gregg Lynn - un o'r lleisiau gwerin gorau welodd Cymru erioed.
Mae'n canu mor naturiol ac mae sain galed i'w lais o, ac mae'n f'atgoffa i o sain a naturioldeb yr hen garolwyr plygain yng ngogledd Sir Drefaldwyn, yr ardal lle ges i fy magu, ac mae Gregg hefyd yn defnyddio'r hen Wenhwyseg sy'n debyg i acen Sir Drefaldwyn, ac mae hynny yn adio at yr apêl.
Mae rhywbeth oesol am y trefniant yma ac mae'n blethiad perffaith o lais ac offeryn.
Linda Griffiths
Pennant Melangell - Siân James
Dwi wedi dewis cân werinol gymharol newydd sef Pennant Melangell, lle mae Siân James wedi cymryd cerdd gan y delynores Nansi Richards ac wedi cyfansoddi alaw syml ond cofiadwy iawn iddi hi.
Dim ond fersiwn deuawd gyda Rhys Meirion sydd wedi ei recordio dwi'n meddwl, ond dwi wedi clywed Siân James yn ei chanu yn fyw nifer o weithiau - rheswm da i fynd i'w gweld hi.
Mae geiriau Pennant Melangell yn reit baradocsaidd... lle mae Nansi Richards yn trafod harddwch y lleoliad mae hi'n dymuno cael ei chladdu ac mae hyn i fi yn un o nodweddion mawr canu gwerin sef trio gwneud synnwyr o brofiadau mawr bywyd a hynny gan amlaf mewn ffordd eithaf diniwed a diffuant.
Mae'r alaw chwerw-felys mae Siân James wedi ei chyfansoddi ar gyfer y geiriau yma yn plethu yn fendigedig a dwi'n meddwl bod y cyfuniad o'r ddau beth yn creu campwaith.
Branwen Haf
Yr Hen Ŵr Mwyn - Shân Emlyn ac Elfed Lewys
Dwi'n hoff iawn o'r traddodiadol ac yn teimlo bod rhaid gwerthfawrogi a deall y gwreiddiau cyn bod modd arbrofi a dwi wedi dewis cân o'r enw Yr Hen Ŵr Mwyn gan Shân Emlyn ac Elfed Lewys.
Mae sawl fersiwn o hon yng Nghymru; fersiwn o Sir Ddinbych ydi hon.
Y rheswm dwi wedi ei dewis hi ydi 'da ni'n gweld y posibiliadau sydd yna efo caneuon gwerin o greu stori. Yn aml iawn mae rhywun yn anghofio bod y geiriau mor bwysig - "it's not all about the music" fel maen nhw'n dweud.
Mae hon yn hyfryd achos mae Elfed Lewis yn canu mor dynner a chwareus ac weithiau rydan ni'n anghofio am hynny.
Weithiau rydan ni'n meddwl amdano efo'r llais mawr yn arwain gorymdeithiau ac yn canu baledi ar y maes Steddfod ac yn y blaen ac mae hon yn dangos yr ochr arall i'w arddull, ac mae Sian Emlyn yn cyd-chwarae yn grêt.
Mair Tomos Ifans
Enaid Enlli - Llio Rhydderch
Ddes i ar draws cerddoriaeth Llio am y tro cyntaf pan nes i glywed trac ar y Rough Guide to the Music of Wales, cyn o'n i'n gyfarwydd iawn gyda'r traddodiad Cymraeg o gwbl, a wnaeth y trac Enaid Enlli taro fi gan fod hi mor bert, ond hefyd yn teimlo mor fodern ar yr un pryd.
Mae'n gafael yn dynn yn y traddodiad delyn deires a hefyd yn byrfyfyrio ac yn mynd â chi i lefydd fydda chi ddim yn disgwyl o'r offeryn.
Gareth Bonello
Hen Benillion - Gwenan Gibbard, gyda Maartin Allcock
Dwi'n hoff ofnadwy o'r delyn a llais ysgafn menyw ac mae llais Gwenan Gibbard yn berffaith ac mae'r delyn yn hyfryd.
Mae Maartin Allcock, o Loegr yn wreiddiol, fu farw yn 2018, yn dod â rhywbeth arbennig i'r darn o benillion sy'n canmol y delyn - sef Hen Benillion.
Frank Hennessy
Mae'r erthygl hon yn addasiad o fersiwn gyhoeddwyd gyntaf fis Ebrill 2019.