Pum munud gyda'r cerddor gwerin Gwilym Bowen Rhys

Gwilym Bowen RhysFfynhonnell y llun, Gwilym Bowen Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Gwilym Bowen Rhys

  • Cyhoeddwyd

Ar drothwy rhyddhau pumed albwm Gwilym Bowen Rhys sef Aden, Cymru Fyw dreuliodd bum munud yng nghwmni'r canwr gwerin o Fethel ger Caernarfon.

'Aden' yw dy bumed albwm. Dyweda ychydig wrthym am yr albwm a'r hyn sydd wedi dy ddylanwadau.

Casgliad o'r hen a'r newydd ydi o. Hen eiriau, hen alawon a hen offerynnau, hynny ydi, offerynnau sydd wedi bodoli ers amser maith (ffidil, telyn deires, viola da gamba a.y.y.b.) ond mae 'na ganeuon newydd sbon danlli, synau heriol a ffres, a theimlad trydanol a chyffrous rhyngddon ni'r cerddorion wrth gyd-chwarae'r gerddoriaeth. Dwi methu disgwyl cael ei rannu.

Ffynhonnell y llun, Gwilym Bowen Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Aden yw albwm newydd Gwilym Bowen Rhys

O le daeth dy ddiddordeb di mewn canu gwerin, a sut mae'r diddordeb hwnnw wedi esbyglu dros y blynyddoedd?

Ges i fy nenu at ganeuon cynnar Bob Dylan yn ystod fy arddegau (a finna'n canu efo'r grwp pop Y Bandana ar y pryd).

O'n i wrth fy modd efo ei eiriau a pa mor farddonol oedd o, a bod y gerddoriaeth jysd fel gwely i gefnogi'r geiriau.

Wedyn mi nes i etifeddu bocs carbod llawn llyfrau o ganeuon gwerin Cymraeg gan fy nhaid, ac wrth dyrchu drwy rheiny ddes i o hyd i berlau.

Nes i fy nhrefniant cyntaf o gân werin efo prosiect 10 Mewn Bws yn 2013. 'Bachgen ifanc ydwyf' oedd y gân, a dwi heb sbio 'nôl ers hynny.

Ffynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Perfformiad ar y stryd yn Nolgellau gan Gwilym Bowen Rhys ac offerynwyr

O wythnos i wythnos rwyt ti'n canu mewn tafardnai ar hyd a lled Cymru. Ydi creu bywoliaeth allan o ganu'n Gymraeg yn bosib i ti?

Yndi, mae'n bosib. Dwi'n ffodus dros ben o fod yn derbyn gymaint o gynigion i ganu'n fyw mor gyson, ond am wn i mae o'n deillio o brofiad, ac o awydd i neud.

Anaml fyddai'n troi rhywbeth i lawr, a gan fod gen i fan a system sain fach, mae'n 'neud cynnal gig bron a bod yn unrhywle yn bosib.

Dwi'n cael llawer o bleser yn canu mewn pentrefi bychain a thafarndai diarffordd.

Ffynhonnell y llun, Y Glob
Disgrifiad o’r llun,

Codi canu yn nhafarn Y Glob, Bangor Uchaf gyda'i ffrind Elidyr Glyn

Oes gen ti hoff le i gynnal gig?

Mae'n newid yn aml, ond bydd y noson ganish i yn y Llew Coch, Llansannan yn ddiweddar yn aros yn y cof am amser maith.

Ydy'r sîn werin yng Nghymru yn un iach heddiw?

'Dwn i'm os ydy o'n iach, ond mae'r diddordeb bendant yn tyfu.

Iddi fod yn iach dwi'n teimlo fod angen i gyfoeth ein traddodiad cerddorol fod ar gael i bobol i wrando arni'n rhwydd.

Gwnaeth Amgueddfa Sain Ffagan waith gwych yn casglu caneuon yn yr 20fed ganrif, ond rŵan ydi'r amser i rannu'r cyfoeth yna, yn hytrach na gadael iddo hel llwch mewn archif.

Yn ôl at dy albwm Aden, sy'n gyfuniad o gyfansoddiadau gwreiddiol a chaneuon traddodiadol, sut wyt ti'n mynd ati i ysgrifennu dy ganeuon dy hun?

Gyda lot o ymdrech a chwys a phoen a rhwystredigaeth yn anffodus.

Dwi'n teimlo weithiau 'mod i wedi mynd mor bell lawr twll cwningen y caneuon gwerin, fod yr awen ddim yn llifo mor aml pan mae'n dod i gyfansoddi o'r newydd.

Er enghraifft, rhwng i egin fy nghân ddiweddaraf godi ei ben a 'sgwennu ei llinell olaf, roedd 'na dair blynedd wedi pasio!

Ond dwi ddim yn gofidio gormod achos mae gan Gymru 'sgwennwyr caneuon gwych a di-ri.

Beth sydd nesaf ar y gweill gen ti?

Canu, canu, symud tŷ, a mwy o ganu.