Lluniau: Bore gwyn i rai ar ôl i eira ddisgyn dros nos

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid 1 o 9, Mochdre Conwy, Cali yn mwynhau yn yr eira ym Mochdre bore dydd Sul
  • Cyhoeddwyd

Mae eira wedi disgyn ar draws rhannau o Gymru dros nos yn dilyn rhybudd oren am dywydd garw gan y Swyddfa Dywydd.

Roedd sawl rhybudd am eira, rhew a glaw mewn grym dros y penwythnos.

Mae rhybudd melyn am eira mawr a rhew wedi ei gyhoeddi ar gyfer siroedd y gogledd ag eithrio Môn rhwng 00:00 nos Lun a hanner dydd, ddydd Llun 6 Ionawr.

Wrth i awyr fwynach symud tua'r gogledd, fe allai'r eira droi'n law rhewllyd mewn mannau, ac mae'n bosib y gallai'r eira ddechrau dadmer yn gymharol gyflym.

Pynciau cysylltiedig