Arestio dyn, 35, ar ôl ymosodiad difrifol ar ddyn ifanc

llun stoc o heddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio dyn 35 oed yn dilyn ymosodiad difrifol yn Sir Benfro dros y penwythnos.

Mae dyn 20 oed yn parhau yn yr ysbyty gyda nifer o anafiadau i'w ben yn dilyn digwyddiad ar Sgwâr y Farchnad, Abergwaun tua 02:50 fore Sul.

Yn ôl y llu mae'r anafiadau yn rhai sydd â'r potensial i newid bywyd.

Mae dyn, 35, bellach wedi'i arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol trwy ymosodiad ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.

Pynciau cysylltiedig