Cymdeithas yr Iaith yn penodi cadeirydd newydd

- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cadarnhau mai Owain Meirion fydd Cadeirydd cenedlaethol newydd y mudiad.
Yng Nghyfarfod Cyffredinol y mudiad ddydd Sadwrn fe gymerodd yr awenau oddi wrth Joseff Gnagbo - a wnaeth ffoi i Gymru o'r Traeth Ifori yng ngorllewin Affrica ac sydd wedi bod wrth y llyw am ddau dymor.
Dywedodd Mr Meirion ei fod yn "anrhydedd enfawr" cael ei ethol fel cadeirydd mudiad sy'n agos at ei galon a hynny "ar adeg mor dyngedfennol i'r iaith".
Yn wreiddiol o Ddolgellau, mae Mr Meirion bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio yn Senedd Cymru.
Bu'n gweithio fel Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol i Gymdeithas yr Iaith rhwng 2023 a 2025.
Mae hefyd wedi gweithio fel aelod o grwpiau ymgyrch Addysg a Digidol y mudiad.
Wrth gamu o'r neilltu fel cadeirydd dywedodd Joseff Gnagbo fod gan Mr Meirion "weledigaeth amlwg a bydd yn dod â brwdfrydedd ac egni newydd i'r mudiad mewn cyfnod pwysig".
Aeth ymlaen i ddiolch i bawb am eu cefnogaeth gan ddweud ei fod yn "edrych ymlaen at weithio o dan arweiniad Owain dros y flwyddyn nesa er mwyn mynnu gwell i'r Gymraeg a'n cymunedau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.