Apêl heddlu wedi ymosodiad honedig ar fyfyrwyr yn Aberystwyth

Rhan o Allt Penglais, AberystwythFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig ar Allt Penglais, Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i adroddiadau bod rhywun wedi ymosod ar dri myfyriwr yn Aberystwyth wythnos diwethaf.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig ger y bont ar Allt Penglais tua 01:00 fore Mercher, 8 Hydref.

Dywed y llu bod yr ymosodwr wedi ei ddisgrifio fel dyn gwyn tua chwe throedfedd o daldra ac yn fawr yn gorfforol, gyda gwallt tywyll hir.

Roedd yn gwisgo dillad du, gyda phatrwm 'sgerbwd ar ei dop, ac esgidiau gwyn, ac fe gerddodd i gyfeiriad canol y dref wedi'r digwyddiad.

Mae'r heddlu'n awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd yr ymosodiad neu sy'n gallu cynnig gwybodaeth o fudd i'r ymchwiliad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig