Caerdydd i wynebu Chelsea yn wyth olaf Cwpan yr EFL

CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Caerdydd yn chwarae Chelsea yn yr wyth olaf ar ôl curo Wrecsam nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Bydd Caerdydd yn croesawu Chelsea i Stadiwm Dinas Caerdydd yn rownd wyth olaf Cwpan yr EFL.

Fe wnaeth yr Adar Gleision sicrhau eu lle yn yr wyth olaf ar ôl curo Wrecsam o 1-2 ar y Cae Ras nos Fawrth.

Fe wnaeth Abertawe golli 1-3 yn erbyn Manchester City yn y bedwaredd rownd nos Fercher.

Bydd gemau rownd yr wyth olaf yn cael eu chwarae yn wythnos 15 Rhagfyr.

Caerdydd, sy'n chwarae yn Adran Un, yw'r unig glwb o du allan i'r Uwch Gynghrair sydd wedi sicrhau eu lle yn y rownd yma.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.