Rhybudd am e-feiciau wedi tân batri mewn cartref

- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi rhybuddio pobl o beryglon batris lithiwm-ion, wedi i dân gafodd ei achosi gan e-feic losgi tŷ yn Sir Caerffili.
Cafodd swyddogion tân eu galw i eiddo yn Ffordd Claremont, Trecelyn am tua 16:30 ddydd Mercher.
Llwyddodd y teulu oedd yn byw yn y tŷ i ddianc heb niwed, a hynny gyda'u pedwar ci.

Wrth rannu lluniau o'r digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol, rhybuddiodd y gwasanaeth tân am beryglon batris lithiwm-ion fel y rheiny sydd mewn cerbydau fel e-feiciau.
"Fe wnaeth y tân achosi difrod sylweddol i ystafell fyw a chegin y cartref, gyda'r ystafelloedd gwely hefyd yn dioddef o ddifrod mwg," meddai'r gwasanaeth.
"Oherwydd y peryglon sydd ynghlwm â batris lithiwm-ion, rydym yn annog pawb i ymweld â'n tudalen ddiogelwch e-feiciau ac e-sgwteri."
Llwyddodd criwiau'r gwasanaeth tân i ddiffodd y tân erbyn tua 18:00 y diwrnod hwnnw.
