Adolygiad ariannol yn 'newyddion pryderus' i gwmni Griffiths

Llun o'r awyr yn dangos ffordd newydd sbon yr A465Ffynhonnell y llun, FCC Construction
Disgrifiad o’r llun,

Griffiths oedd un o brif contractwyr y prosiect i ddeuoli yr A465 yn ne Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cwmni adeiladu o Gymru sy'n gyfrifol am ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd ac adeiladu cwrs golff Cwpan Ryder 2010 yng Nghasnewydd yn dweud ei fod yn "ymgynghori" â staff yn dilyn adolygiad ariannol.

Mae Griffiths, sydd â'i bencadlys yn y Fenni, wedi methu â ffeilio ei gyfrifon diweddaraf mewn pryd ac wedi cofnodi pedair blynedd o golledion cyn hynny.

Mewn datganiad i wefan Construction News, dolen allanol, dywedodd Griffiths, sy'n rhan o grŵp Tarmac, fod adolygiad o "amodau'r farchnad a pherfformiad ariannol" wedi arwain at drafod "newidiadau arfaethedig" gyda staff.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr ymgynghoriad yn "newyddion pryderus" i weithwyr a'r gymuned leol.

Tiger Woods yn chwarae golf yng Nghasnewydd gyda thorf o wylwyr a'r wasg i'r ochr chwithFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Tiger Woods i Gasnewydd i chwarae ar gwrs Ryder Cup 2010, ar ôl i Griffiths chwarae rhan ganolog yn y broses adeiladu

Wedi'i sefydlu yn 1968 gan Alun Griffiths, mae'r cwmni'n un o'r contractwyr peirianneg sifil a rheilffyrdd mwyaf adnabyddus yng Nghymru a gorllewin Lloegr.

Prynodd grŵp Tarmac y busnes yn 2018 ond mae'n parhau i weithredu o dan yr enw Griffiths. Dangosodd y cyfrifon diweddaraf sydd ar gael, o 2022, ei fod yn cyflogi tua 900 o bobl.

Dywedodd llefarydd ar ran Griffiths: "Rydym wedi cynnal adolygiad strategol cynhwysfawr o'r busnes mewn ymateb i heriau diweddar a wynebwyd gan Griffiths, gan gynnwys amodau'r farchnad a pherfformiad ariannol.

"Yn dilyn yr adolygiad hwn, mae proses ymgynghori wedi dechrau gyda gweithwyr. Byddwn yn pori trwy newidiadau arfaethedig gyda'n gweithwyr ac yn clywed eu hadborth cyn i unrhyw benderfyniadau terfynol gael eu gwneud.

"Rydym wedi ymrwymo i barhau i gyflawni ar gyfer ein cwsmeriaid a'n cyflenwyr yn unol â'n hymrwymiadau cytundebol."

Mae prosiectau presennol Griffiths yn cynnwys y gwaith olaf i ddeuoli ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd yn ne Cymru, a menter ar y cyd i ddatblygu canolfan drafnidiaeth newydd gwerth £60m ym Maes Awyr Bryste.

Ond mae Griffiths wedi tynnu allan o gytundebau eraill, gan gynnwys ymrwymiad i adeiladu ffordd osgoi gwerth £90m yn Banwell yng Ngwlad yr Haf.

Pedair blynedd o golledion

Mae Tŷ'r Cwmnïau yn dangos bod disgwyl i gyfrifon diweddaraf Griffiths, sy'n masnachu fel Alun Griffiths (Contractors) Ltd, gael eu ffeilio erbyn 31 Rhagfyr 2024.

Mae'r cyfrifon hwyr ar gyfer 2023.

Mae cyfrifon a ffeiliwyd yn flaenorol yn dangos bod y cwmni wedi cofnodi colledion o £20m yn 2022, £38.1m yn 2021, £11.6m yn 2020 a £4.8m yn 2019.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae hyn yn amlwg yn newyddion pryderus i weithwyr Alun Griffiths Contractors, eu teuluoedd a chymunedau lleol.

"Byddwn yn parhau i weithio gydag Alun Griffiths Contractors yn ystod y broses ymgynghori hon."

Pynciau cysylltiedig