Cyhuddo dau ar ôl i yrrwr farw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi cael cyhuddo ôl i yrrwr farw a phlentyn ddioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad ym Mhowys.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng tri char – BMW X3 coch, Audi S4 glas, a Toyota Yaris gwyn – ar yr A483 yn ardal Belan ger Y Trallwng tua 18:15 ddydd Sadwrn.
Roedd y BMW a’r Audi yn teithio tua’r gogledd, tra bo'r Toyota yn teithio i’r cyfeiriad arall.
Bu farw gyrrwr y Toyota yn y fan a'r lle.
Cafodd plentyn a oedd yn teithio yn yr un car ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr ar ôl dioddef anafiadau difrifol.
Cyhuddo o nifer o droseddau gyrru
Cafodd dau ddyn eu harestio wedi'r gwrthdrawiad, ac fe gadarnhaodd yr heddlu fore Llun eu bod bellach wedi'u cyhuddo.
Mae Abubakr Ben Yusaf, 29, wedi'i gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, gyrru dan ddylanwad cyffuriau, achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus, achosi marwolaeth tra'n gyrru heb yswiriant, methu â darparu sampl i'w ddadansoddi, a methu â stopio ar ôl gwrthdrawiad.
Mae Umar Ben Yusaf, 33, wedi'i gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus, achosi marwolaeth tra'n gyrru yswiriant, a methu â stopio ar ôl gwrthdrawiad
Mae disgwyl i'r ddau ymddangos yn y llys ddydd Llun.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.