Mwy o gleifion yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth

YsbytaiFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r ystadegau iechyd diweddaraf yn dangos cynnydd yn y niferoedd sydd wedi gorfod aros o leiaf dwy flynedd am driniaeth ar y gwasanaeth iechyd.

Daw'r cynnydd er gwaethaf ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru na fyddai unrhyw un yn aros cymaint â hynny erbyn diwedd Mawrth y flwyddyn nesaf.

Yn ôl y ffigyrau, roedd 8,703 o achosion ym mis Awst lle'r oedd rhywun wedi gorfod aros dros ddwy flynedd, o'i gymharu â 8,005 ym mis Gorffennaf - cynnydd o bron i 9%.

Er bod maint y rhestr aros yn ei gyfanrwydd wedi gostwng o 793,056 yng Ngorffennaf i 790,576 yn Awst, mae'r ffigyrau yn awgrymu fod 'na her sylweddol yn wynebu'r gwasanaeth iechyd os am gyrraedd targed arall - sef gostwng y ffigwr hwn i tua 600,000 erbyn y gwanwyn.

Amrywiaeth o fewn byrddau iechyd

Mae'r ystadegau yn dangos cryn dipyn o amrywiaeth ym mherfformiad byrddau iechyd.

Mae pob un ond dau fwrdd iechyd wedi llwyddo i ostwng arosiadau o ddwy flynedd neu ragor yn llwyr, neu i lai na 1% o'r cyfanswm.

Ond ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, ym mis Awst, roedd 1,523 o achosion lle'r oedd rhywun wedi gorfod aros cymaint â hynny.

Ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr roedd yna 5,465 o achosion, a hynny'n cynrychioli dros 60% o'r arosiadau hiraf dros Gymru gyfan.

SbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

O ran gofal brys, mae'r ystadegau hefyd yn dangos bod y gwasanaeth iechyd wedi bod o dan bwysau sylweddol ar ddechrau'r Hydref.

Roedd mwy na 93,000 wedi mynychu unedau brys - cyfartaledd o tua 3,100 y diwrnod - y ffigwr uchaf erioed i'w gofnodi ym mis Medi.

O ran perfformiad, mae'r ffigyrau yn dangos fod 65.5% o gleifion wedi treulio llai na phedair awr yn aros cyn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau ym mis Awst.

Dyw'r targed hirdymor o 95% erioed wedi ei gyrraedd.

Yr amser aros, ar gyfartaledd, oedd dwy awr a 47 munud - dwy funud yn hirach o'i gymharu â'r mis blaenorol.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod y gwasanaeth iechyd wedi cael llwyddiant diweddar yn lleihau'r cyfnodau mae cleifion yn gorfod aros mewn ambiwlansys y tu allan i unedau brys.

Mae oedi o'r fath yn digwydd, fel arfer, pan fo'r unedau hynny'n llawn.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r ffigyrau yn dangos fod y math yma o oedi, ym mis Medi eleni, 40% yn llai o gymharu â'r un cyfnod llynedd.