Gaza: 'Llawer o'r plant heb ysgol, heb deulu na dyfodol'

Vicky MollerFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Vicky Moller (dde) yn Cairo ar hyn o bryd yn helpu teuluoedd sydd wedi ffoi o Gaza

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymraes sydd wedi bod yn helpu teuluoedd sy'n ffoi rhag y brwydro yn Gaza yn dweud ei bod yn "galed i osgoi crio" wrth weld effaith y rhyfel ar blant.

Mae Vicky Moller, 78, yn Cairo ar hyn o bryd yn helpu teuluoedd sydd wedi gadael Gaza.

Mae hi'n un o sylfaenwyr elusen Cwtch Pals, a gafodd ei ffurfio gan grŵp o deuluoedd a mamau o ogledd Sir Benfro.

Maen nhw'n gweithio i gefnogi teuluoedd sy'n ceisio dianc rhag yr ymladd.

Mae'r grŵp wedi bod yn gweithredu ers mis Chwefror 2024 ac wedi helpu i noddi teuluoedd a phlant ifanc i symud i gartrefi mwy diogel dros y ffin yn Yr Aifft.

Gaza, Chwefror 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae teuluoedd wedi colli popeth yn sgil y rhyfel yn Gaza

Ers dros fis mae Ms Moller wedi bod yn helpu athrawon i roi addysg i'r plant ar ôl iddyn nhw symud i Cairo, ac i sefydlu ysgolion ar eu cyfer.

"Ry'n ni yma i helpu pobl o Balesteina. Fe ddaethon ni mas yma i ffeindio y ffordd orau i'w helpu, ac mae pob dydd yn wahanol yma," meddai.

Dywed nad oes ysgolion nac addysg ar gael i Balestiniaid yn Cairo.

Mae rhai yn cael gwersi ar-lein, ond does dim darpariaeth ar eu cyfer yn y ddinas.

Mae'r elusen o Sir Benfro eisoes wedi noddi dwy ysgol yn Cairo - un ar gyfer plant yn eu harddegau ac un arall ar gyfer plant o bob oed.

'Wir yn galed i beidio crio'

Creu hafan ddiogel i blant a'u teuluoedd yw'r nod, ac mae gan y grŵp gysylltiad agos ag elusen Croeso Teifi, a gafodd ei sefydlu mewn ymateb i'r argyfwng yn Syria ac i helpu teuluoedd o'r Dwyrain Canol i symud i fyw yng ngorllewin Cymru.

Mae'r gwaith yn Cairo yn aml yn heriol, meddai Ms Moller.

"Heddi aethon ni i ysgol i blant gydag ond un rhiant. Roedd yn drist iawn ac yn galed i osgoi crio, ond roedd y plant yn hapus.

"Roedden ni yn gallu rhoi 'chydig o wersi iddyn nhw, chwarae gyda theganau a dweud stori yn Saesneg, ac roedd pobl yn helpu ni trwy gyfieithu y stori i Arabeg."

Ysgol CairoFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r elusen o Sir Benfro eisoes wedi noddi dwy ysgol yn Cairo

Dyw cynnal yr ysgolion ddim yn hawdd, ac mae arian yn brin.

"Mae yn galed achos mae rhaid i'r ysgol ddod o hyd i arian i dalu am yr athrawon i gadw yr ysgol i fynd," meddai Ms Moller.

"Mae'n eitha' trist a dweud y gwir."

Fe fydd nifer o'r plant yn dioddef gyda thrawma oherwydd effaith y rhyfel yn Gaza.

Dywed Ms Moller ei bod hi wedi cwrdd ag athrawes seicolegol neu feddyg sydd yn eu helpu, a'i bod hi wedi sôn bod llawer o broblemau gyda'r plant o ran ymddygiad.

"Ond dwi ddim 'di gweld hyn fy hun," meddai. "Ma' rhai o'r plant yn dawel iawn.

"Mae'n bwysig iawn eu bod nhw yn dod i'r ysgol oherwydd mae'r plant yma wedi cyrraedd gydag un rhiant yn unig - fel arfer y fam.

"Yn aml iawn maen nhw'n depressed neu yn ddiflas iawn. Roedd hi wir yn galed i fi heddi mewn un ysgol i beidio crio."

Ysgol CairoFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Vicky Moller eisiau i fwy o Gymry fynd i'r Dwyrain Canol i weld yr hyn sy'n digwydd gyda'u llygaid eu hunain

Bwriad Ms Moller ar ôl dod nôl i Gymru yw sicrhau fod y gwaith yn parhau.

"Pan bydda i nôl dwi am helpu mwy o bobl i ddod allan yma o Gymru i weld be' sy'n digwydd yma a rhoi cefnogaeth i ysgolion.

"Mae pawb yn ddewr ac yn gweithio'n galed i helpu'r plant yma yn Yr Aifft, ac mae'r gwaith maen nhw'n ei 'neud yn bwysig iawn.

"Mae llawer o storïau trist, digalon yma. Ond fe allwn ni gyd helpu.

"Does neb yn siŵr be' fydd eu dyfodol - ma' pobl wedi colli eu tai a'u hysgolion.

"Rwy isie gweld pobl dros y byd yn helpu a bod yn garedig i helpu pobl yn Gaza a chydweithio."

Pynciau cysylltiedig