Cwm yn dathlu ar ôl i nifer o bobl leol rannu £1m o arian loteri

rhai o'r enillwyr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhai o'r pentrefwyr wybod ddydd Mawrth eu bod nhw wedi ennill

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl sy'n byw mewn "cwm sy’n cael ei anghofio" wrth eu boddau ar ôl ennill gwobr loteri annisgwyl o £1m.

Cafodd 11 person yn Nantymoel, Cwm Ogwr wybod yr wythnos yma eu bod nhw wedi ennill £83,333 yr un, ar ôl rhannu prif wobr wythnosol y Postcode Lottery.

Dywedodd un ei bod hi’n meddwl bod rhywun yn ceisio’i thwyllo i ddechrau, tra bod un arall nawr yn bwriadu mynd ar ei wyliau tramor cyntaf erioed.

Mae disgwyl i elusennau a sefydliadau yn y “gymuned glos” elwa hefyd, gyda pherchennog y dafarn leol yn dweud ei fod yn “hwb mawr” i bobl leol.

Disgrifiad o’r llun,

Fydd Grant a Katrina ddim yn symud o'u tŷ "lwcus" ar ôl gorffen talu'r morgais ac ennill y loteri yn yr un wythnos

Roedd Grant a Katrina Williams ymhlith y trigolion yn Nantymoel gafodd yr alwad ffôn annisgwyl, ddyddiau yn unig wedi iddyn nhw orffen talu morgais eu tŷ.

“Ma' fe bendant yn un o’r wythnosau gorau ni wedi cael!” meddai Katrina.

“Ro’n i jyst yn meddwl byddai £1,000 yn hyfryd, felly i agor yr amlen aur a gweld beth wnaethon ni ennill, roedd e’n bonws anferth.”

Yn 52 oed, mae Grant yn dal i fyw yn yr un tŷ lle cafodd ei eni, ac erioed wedi bod dramor – tan nawr.

“Bydd rhaid i fi sortio pasbort nawr fi’n credu,” meddai. “Lle, dwi ddim yn gwybod eto.”

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alan a Muriel yn credu bod rhywun yn chwarae "jôc sâl" arnyn nhw i ddechrau

Un cwpl wnaeth wastraffu dim amser yn archebu gwyliau oedd Alan a Muriel Owen, sydd eisoes ar eu ffordd i Dwrci.

Mae Muriel yn cyfaddef nad oedd hi’n credu’r newyddion i ddechrau.

“Ro’n i’n meddwl bod rhywun yn trio twyllo ni i ddechrau, wedyn nes i ddweud wrth [Alan] bod rhywun yn chwarae jôc sâl arnon ni,” meddai.

“Ond pan ddaeth y cymdogion mewn a gofyn oedden ni wedi cael galwad, nes i sylweddoli wedyn bod e’n beth da!”

Ychwanegodd ei bod hi’n “wych” rhannu’r fuddugoliaeth gyda chymdogion a ffrindiau, oedd yn ei geiriau hi yn “bobl hyfryd y cymoedd”.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Michaela nawr yn gobeithio atgyfodi cynllun i fynd i wylio'r Llewod yn chwarae rygbi yn Awstralia

Mae Michael a Rob Jones hefyd ymhlith y rheiny ar y stryd sy’n dathlu, ac yn bwriadu gwario’r arian ar gegin newydd a gwyliau.

“Ni’n gallu byw bywyd yn gyfforddus nawr, gwneud rhai pethau o amgylch y tŷ, a helpu’r plant,” meddai Rob.

Ychwanegodd Michaela: “Mae’n dda bod pobl gyffredin wedi ennill rhywbeth o’r diwedd.

“Mae cael arian ychwanegol yn neis i’r gymuned, achos ni yn gymuned fach ond ni’n agos, felly mae’n neis rhannu’r profiad gyda ffrindiau.”

Ffynhonnell y llun, Postcode Lottery
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y sieciau eu cyflwyno i'r enillwyr gan y cyflwynydd Matt Johnson

Daeth y rhan fwyaf o'r enillwyr at ei gilydd i ddathlu yn y dafarn leol, Gwesty Blaenogwr.

Mae’r perchennog Helen Smith hefyd yn croesawu’r newyddion “ffantastig”.

“Roedd awyrgylch grêt yma, wnaethon ni roi prosecco am ddim i bawb i helpu nhw ddathlu,” meddai.

“Mae’n neis gweld pobl hyfryd yn ennill arian.”

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Helen Smith fod y gymuned gyfan yn ymfalchïo yn y fuddugoliaeth, gan fod arian yn dod i elusennau hefyd

Nid yr 11 enillydd yw’r unig rai fydd yn derbyn arian chwaith, yn ôl y Postcode Lottery.

Mae’r elusennau a sefydliadau lleol fydd hefyd yn elwa yn cynnwys Tanio, elusen gelfyddydau gymunedol, Clwb Bechgyn a Merched Wyndham yn y pentref, a’r clwb bocsio lleol.

“Roedd e’n grêt sylweddoli bod elusennau lleol yn Nantymoel hefyd yn mynd i elwa o’n buddugoliaeth ni,” meddai Katrina Williams.

“’Dyn ni’n gwm bach sy’n cael ei anghofio lot o’r amser.”

Ychwanegodd ei gŵr Grant: “Mae wedi’n rhoi ni 'nôl ar y map.”