Angen 'ymdawelu ychydig' dros newid treth etifeddiaeth ffermwyr - Morgan
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw ar bobl i "ymdawelu ychydig" dros newidiadau i dreth etifeddiaeth ffermwyr.
Bu cyllideb y Canghellor, Rachel Reeves, yn ddadleuol yn y sector amaethyddol pan gyhoeddodd ddiwedd ar eithriadau ar gyfer rhai ffermydd.
Dywedodd Eluned Morgan fod yr amcangyfrifon cychwynnol yn awgrymu y bydd hynny yn effeithio ar “gyfran fechan” o ffermydd.
Mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi ymateb yn chwyrn i'r sylwadau.
Wrth nodi ei 100 diwrnod yn y swydd, bu Ms Morgan hefyd yn trafod Donald Trump a'r terfyn 20mya dadleuol ar BBC Radio 5 Live fore Iau, lle mae cyfle i wrandawyr ffonio'r rhaglen.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fydd ei pholisi ar dreth etifeddiaeth amaethyddol yn newid, a bod “pob gweinidog yn cefnogi’r polisi”.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y bydd y diwygiadau i ryddhad eiddo amaethyddol yn cael eu gwneud mewn “ffordd gytbwys a theg”.
'Trychinebus'
O fis Ebrill 2026, bydd ffermydd sydd werth mwy na £1m yn wynebu cyfradd treth etifeddiaeth o 20% - hanner y gyfradd arferol o 40%.
Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi ei alw’n “drychinebus” i ffermydd teuluol, gan ddweud y byddai’n gweld ffermwyr yn cael eu gorfodi i werthu tir i dalu’r dreth.
Wrth siarad â Nicky Campbell, dywedodd Eluned Morgan ei fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU.
“Rydyn ni’n gwybod bod y filiwn gyntaf yn ryddhad 100%, os oes gennych chi bartner, dyna filiwn arall, rhyddhad arall o 100% ar yr ail filiwn.
“Felly rydyn ni'n codi i niferoedd eithaf mawr.
“Yr amcangyfrifon cychwynnol rydyn ni wedi’u gwneud yw y bydd hyn yn effeithio ar gyfran fach iawn o ffermwyr yng Nghymru.
“Felly dwi’n meddwl y dylen ni i gyd ymdawelu ychydig nes ein bod ni i gyd yn gwybod faint o ffermydd fydd yn gweld gwahaniaeth."
Ychwanegodd eu bod wrthi'n dadansoddi'r niferoedd.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, fod sylwadau'r prif weinidog yn "dangos cyn lleied mae'r llywodraeth Lafur Gymreig yma yn deall y gymuned wledig".
Wrth rybuddio “mae’n ddigon posib y bydd y dreth farwolaeth newydd hon yn rhoi diwedd ar ffermydd teuluol”, ychwanegodd: “Mae’n rhaid gwrthdroi’r penderfyniad hwn, oherwydd heb ffermwyr does dim bwyd.”
Dywedodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Cefin Campbell, fod ffermwyr yn "poeni'n gwbl briodol am yr effaith y bydd Cyllideb Llafur yn ei chael arnyn nhw".
"Dweud wrthyn nhw i dawelu - wir?" meddai. "Faint mwy allan o gysylltiad allwch chi fod?"
Dylai Eluned Morgan "fynnu bod llywodraeth Lafur y DU yn cael gwared ar y newidiadau i dreth etifeddiaeth a sicrhau cyllid teg i amaethyddiaeth," meddai.
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd31 Hydref
- Cyhoeddwyd18 Hydref
Cafodd Eluned Morgan gwestiwn ynglŷn ag a oedd y darpar-arlywydd Donald Trump yn hiliol.
“Ddylwn i ddim meddwl ei fod e, a dweud y gwir,” meddai.
"Fe wnaeth llawer o bobl ddu a Latinos bleidleisio drosto yn yr etholiad."
Dywedodd fod yn rhaid parchu pleidlais America: “Mae angen perthynas gref gyda’r Unol Daleithiau, waeth pwy sy’n arwain y wlad.
"Dyma ein marchnad fwyaf o ran mewnfuddsoddiad."
Ond dywedodd ei bod yn poeni am botensial tariffau ychwanegol: "Bydd yn taro ein heconomi."
Amddiffynnodd y prif weinidog y newidiadau o ran y terfyn cyflymder 20mya.
Gan gyfaddef ei fod yn ddadleuol "a dweud y lleiaf", dywedodd fod gostyngiad sylweddol wedi bod mewn damweiniau.
O ran amseroedd aros yn y GIG, dywedodd ei bod yn cydnabod "bod gennym ni lawer iawn i'w wneud", a dywedodd ei bod wedi cyhoeddi £28m i helpu i dorri amseroedd aros hir.
O ran ehangu'r Senedd o 60 i 96 aelod, dywedodd y prif weinidog fod y deddfwriaeth "yn llawer llai na seneddau eraill".
"Mae'n anoddach cael mwy o bobl yn craffu arna i, ond mae 'na ddigon o dystiolaeth i awgrymu, pan mae pobl fel fi yn cael eu craffu, ein bod ni'n gwneud swydd well."