Ateb y Galw: Merfyn Jones

- Cyhoeddwyd
Merfyn 'Smyrff' Jones, y tywyswr mynydd ac aelod o dîm achub mynydd Eryri sy'n Ateb y Galw'r wythnos hon.
Bydd Merfyn yn tywys y cyflwynydd Radio Cymru, Aled Hughes, wrth iddo wneud ei her ar gyfer Plant Mewn Angen eleni.
Bydd Aled yn ceisio cerdded 135 o filltiroedd mewn saith diwrnod ar hyd Llwybr Pererin Gogledd Cymru, gan gychwyn yn Nhreffynnon a gorffen yn Aberdaron.
Dechreuodd y daith ddydd Sadwrn 9 Tachwedd 2024 gan anelu i orffen ddydd Gwener 15 Tachwedd 2024.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Cael row gan y prifathro am ddengid i ffwrdd o’r ysgol un amser cinio gyda criw o fy ffrindiau!
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Crib Goch oherwydd ei fod yn heriol a dwi'n mwynhau’r sialens o fynd â grwpiau amrywiol drosto.

Merfyn yn dringo dros Crib Goch
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Gweld Arsenal yn curo Barcelona yn y Champions League yn Stadiwm yr Emirates.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Penderfynol, brwdfrydig a phrysur.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Pasio fy nghwrs arweinydd mynydd gaeaf.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Cefais fynd i weld gêm Wrecsam yn erbyn Arsenal yn y Cae Ras. Roeddwn i'n un o’r cefnogwyr oedd yn cefnogi Arsenal yng nghanol cefnogwyr Wrecsam pan ddaru nhw ein curo 2-1!

Y gêm hanesyddol yng Nghwpan FA Lloegr rhwng Wrecsam ac Arsenal, ble roedd Merfyn yno yn cefnogi Arsenal
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Dwi'm yn cofio.

Mulhacén - mynydd ger Granada yn ne Sbaen
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Dwi'n chwyrnu weithiau!
Beth yw eich hoff lyfr a pam?
Llyfr Antur i’r Eithaf - atgofion byw ar y dibyn gan Eric Jones oherwydd roedd yn braf darllen am lwyddiant a phrofiadau anhygoel Cymro lleol sydd yn ysbrydoli eraill.

Eric Jones, un o arwyr Merfyn
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Muhammad Ali.

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae gennyf gasgliad o slipers gwirion ac yn cael rhai newydd pob Nadolig.

Merfyn yn gwisgo pâr o slipars o'i gasgliad eang
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Dringo mynydd nad wyf wedi ei wneud o’r blaen.

Ar fynydd Piz Boe yn y Dolomites
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Un o fy hoff luniau yw cyrraedd copa Mont Blanc yn Ffrainc gyda fy ffrind Dafydd.

Ar gopa Mont Blanc gyda'i ffrind, Dafydd
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Fy hoff bêl-droediwr, Dennis Bergkamp.

Hoff chwaraewr pêl-droed Merfyn, Dennis Bergkamp
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd9 Medi 2024