Arian Plant Mewn Angen yn rhoi gwên ar wynebau yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Cyn i Aled Hughes gychwyn ar ei daith gerdded o 135 o filltiroedd mewn saith diwrnod, aeth i weld sut oedd arian Plant Mewn Angen yn helpu rhai sefydliadau yng Nghymru.
Cafodd Miller ei eni gyda chyflwr Spina Bifida, ac ar y cychwyn doedd ei rieni ddim yn siwr os fyddai byth yn gallu cerdded.
Erbyn hyn, mae Miller yn blentyn egnïol a hyderus sy'n hoff o chwaraeon - yn enwedig pêl-fasged cadair olwyn.
Mae Clwb Pêl-Fasged Cadair Olwyn Aberystwyth yn derbyn arian gan Plant Mewn Angen er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu parhau i gynnal sesiynau a chefnogi datblygiad plant fel Miller.
Mae rhieni Miller yn teithio awr bob wythnos i gyrraedd y clwb, ond yn dweud y bydden nhw'n gwneud y daith bob un dydd petai angen oherwydd y wên mae pêl-fasged cadair olwyn yn ei roi ar wyneb Miller.
I glywed y sgwrs, ac am yr holl fanylion cyfrannu, dilynwch y linc bbc.co.uk/heranferthaled
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd30 Medi
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl