Neil Foden: Ymchwilio i ddau achos newydd o gam-drin
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai
Mae Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio i ddau achos newydd yn ymwneud â’r cyn-bennaeth a’r pedoffeil, Neil Foden, gall rhaglen Newyddion S4C ddatgelu.
Daeth cadarnhad gan y llu bod yr honiadau’n ymwneud â Foden yn meithrin perthynas amhriodol a cham-drin rhywiol.
Ers i raglen BBC Wales Investigates gael ei darlledu, mae’r heddlu yn dweud fod ganddyn nhw ddau ymchwiliad byw ar waith.
Mae’r honiadau yn gysylltiedig â dioddefwyr oedd yn “blant ar adeg y drosedd".
Cadarnhaodd Gwasanaeth Erlyn y Goron nad ydyn nhw wedi derbyn honiadau newydd gan Heddlu’r Gogledd.
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd15 Mai
- Cyhoeddwyd15 Mai
Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ym mis Gorffennaf ar ôl cam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.
Ar hyn o bryd, mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cynnal Adolygiad Ymarfer Plant i weld pa wersi sydd i’w dysgu.
Ond, mae nifer yn poeni fod adolygiad o’r fath yn gyfyng ac mae yna alwadau am ymchwiliad cyhoeddus ac adolygiad annibynnol o brosesau Cyngor Gwynedd.
Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes: "Mae diddordeb mawr yn yr adolygiad yma ac mae gan y bwrdd a'r panel rôl allweddol wrth gyfathrebu gyda'r cyhoedd, yn enwedig plant a phobl ifanc.
"Mae hynny'n hanfodol er mwyn osgoi dryswch ac ansicrwydd.
"Mae'n allweddol fod gwybodaeth glir ar gael i'r cyhoedd, sydd o bosib â diddordeb personol yn yr adolygiad neu sydd â phrofiadau pwysig maen nhw am eu rhannu, a'u bod nhw'n gallu rhannu'r profiadau'n ddiogel a chyfrinachol."
Roedd Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor ac yn bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
Mae cyn-aelod o staff yn Ysgol Friars wedi dweud fod “cyfrinachau” yn “taflu cysgod” dros ddyfodol yr ysgol.
Mae Ana - nid ei henw iawn – yn poeni nad ydi rhai ffeithiau sy’n gysylltiedig ag achos Neil Foden yn cael eu rhannu â’r awdurdodau.
Yn ôl Ana, mae “methiannau mawr” wedi bod o fewn arweinyddiaeth yr ysgol dros y blynyddoedd, ac mae hi’n cwestiynu faint o fanylion mae’r panel Adolygiad Ymarfer Plant wedi ei gael am sut yr oedd yr ysgol yn cael ei rhedeg.
“Ma’ ’na bobol yna [yn yr ysgol] sydd efo gwybodaeth,” meddai.
"Y teimlad sy’ gen i ydi dydyn nhw ddim am ddŵad ymlaen."
Brian Jones yw cadeirydd newydd llywodraethwyr Ysgol Friars.
Dywedodd fod “tîm yr Adolygiad Ymarfer Plant wedi bod yn yr ysgol ar sawl achlysur ac wedi rhoi cyfle i staff ymweld â hwy i rannu unrhyw bryderon neu wybodaeth all fod o ddefnydd iddynt".
'Mae ’na bethau sydd angen dod allan'
Dydi Ana ddim eisiau datgelu ei henw go iawn oherwydd ei bod yn poeni am ymateb anffafriol posib.
Mae gan nifer o staff presennol a chyn-staff yr ysgol sylwadau tebyg i Ana.
Mae hi’n dweud bod yna ddiwylliant “ataliol, gwenwynig, brawychus a bwlio” yn yr ysgol o dan Foden.
Mae hi’n galw am ymchwiliad cyhoeddus er mwyn i bobl “ddod ymlaen a gorfod rhoi gwybodaeth”.
Mae Ana yn credu fod gan nifer o bobl sy’n gweithio yn Ysgol Friars fanylion a allai roi cyd-destun i ddigwyddidau o’r gorffennol.
“Mae yna bethau wedi digwydd yn yr ysgol sydd angen dod allan… mae ’na rai aelodau o staff yn gwybod mwy na maen nhw’n ei ddeud.”
Dywedodd Ana nad oedd digon o gefnogaeth i staff ar ôl i droseddau Foden ddod i’r amlwg.
“Mae staff wedi 'neud y gora i’r plant heb fawr o gefnogaeth,” meddai.
Y bore ar ôl i Foden gael ei arestio, mae Ana yn cofio cyfarfod staff arbennig.
Cafwyd rhybudd clir y dylai pawb barhau â’u gwaith fel arfer ac i “beidio trafod y mater efo neb", meddai.
“Roedd disgwyl i ni gario ymlaen, pan mewn gwirionedd oll roeddan ni isho neud oedd cael dod at ein gilydd a trafod yr hyn roeddan ni newydd glywed.
“Roedd hi'n sefyllfa erchyll.”
10 athro ar absenoldeb tymor hir
Rydyn ni’n deall fod o leia’ 10 o athrawon ar absenoldeb tymor hir o’r ysgol, gyda ffynonellau sy’n cadw golwg ar y niferoedd yn dweud fod “18 absenoldeb bob dydd” ar gyfartaledd ers Hydref 2024.
Mae rhai absenoldebau oherwydd salwch tymor byr, ond mae nifer ohonyn nhw, meddai’r ffynonellau, yn ei chael hi’n anodd ac yn teimlo’r straen oherwydd digwyddiadau “digynsail” y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd cadeirydd y llywodraethwyr, Brian Jones, fod “155 o unigolion yn gweithio yn Ysgol Friars, ac yn naturiol mae pob un wedi cael ei effeithio gan yr hyn sydd wedi dod i'r golwg o ganlyniad i weithgareddau erchyll Neil Foden".
“Mae pobl yn delio efo straen o'r natur yma mewn ffyrdd gwahanol, ac mewn rhai achosion, mae wedi arwain at absenoldebau.”
Dywedodd fod y corff llywodraethu newydd “yn ymrwymedig i wneud eu gorau glas dros les disgyblion a staff yr ysgol".
Ond mae Ana yn feirniadol o Gyngor Gwynedd am beidio cymryd rheolaeth lawn o’r ysgol ar ôl i Foden gael ei gyhuddo, ac yn dweud y dylai’r awdurdod fod wedi ymateb “yn lot cynt na be' naethon nhw".
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod y sefyllfa’n “ddigynsail o heriol i Ysgol Friars ac rydym yn cydnabod pa mor anodd mae hi wedi bod i’r holl ddisgyblion a staff.
"Mae swyddogion o’r Adran Addysg wedi bod yn cydweithio gyda’r staff dysgu, staff cefnogol a llywodraethwyr yr ysgol i adfer a sefydlogi’r sefyllfa, er budd holl ddisgyblion yr ysgol."
Yn ystod achos llys Foden daeth i’r amlwg fod Foden yn aml yn cam-drin plant yn ei gar.
Clywodd y rheithgor fod cydweithwyr wedi ei weld o’n mynd i’w gar efo un o’r dioddefwyr, a rhoi ei freichiau amdani a’i chofleidio.
Hefyd, dywedodd cyn-ddisgybl, sy’n honni i Foden feithrin perthynas amhriodol gyda hi am bum mlynedd, fod athrawon a staff eraill yn yr ysgol wedi ei gweld hi yn mynd i mewn i'w gar ar ei phen ei hun sawl tro.
Mae Ana yn honni fod nifer o fewn yr ysgol yn ymwybodol fod rhai merched yn cael “lot o sylw gan Foden”.
“Oeddan ni’n gwbod fel aelodau o staff doeddan i ddim i fod i gario plant yn ein ceir, felly pam oedd o’n wahanol, a pam nath neb gwestiynu hynna?”
A hithau wedi gadael yr ysgol erbyn hyn, mae Ana yn teimlo fod ganddi’r rhyddid i siarad yn gyhoeddus am sut oedd Ysgol Friars yn cael ei rhedeg.
“Ma' hyn i gyd wedi cael effaith arna i. Bob dydd, dwi’n meddwl am y merched ifanc wnaeth Foden gamdrin.”
Er bod Foden wedi gadael yr ysgol ers Medi 2023, mae hi’n credu yn “bendant fod cyfrinachau yn taflu cysgod dros yr ysgol".
“Swn i’n deud fod yr uwch dîm wedi cael eu mowldio i mewn i sut oedd o isio nhw fihafio,” meddai.
'Llechen lân'
Aeth ati i ddweud: “Mae hyn yn fwy na Foden ei hun. Mi oedd o wedi neud yn siŵr ei fod o wedi cael ei amgylchynu gan bobol o’dd ddim yn mynd i gwestiynu fo.
“Mae’r uwch dîm reoli dal yno a tra fyddan nhw, dydi petha yn bendant ddim yn mynd i newid.
“Mae angen llechan lân yn yr ysgol a cychwyn o’r cychwyn eto.”
Mewn ymateb, dywedodd cadeirydd y llywodraethwyr na allai wneud sylw am faterion yn ymwneud â staff, gan ychwanegu y byddai’r corff yn delio efo “unrhyw honiad” yn unol â'i bolisiau.
Nodwn fod y cyngor wedi cynghori a chefnogi’r llywodraethwyr a’r ysgol drwy gydol yr amser heriol diweddar.
“Ni fyddai’n briodol gwneud sylw pellach hyd nes mae’r holl ymchwiliadau – gan gynnwys yr Adolygiad Ymarfer Plant statudol – wedi eu cwblhau.”
Adolygiad Ymarfer Plant
Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru eisoes yn cynnal Adolygiad Ymarfer Plant i achos Neil Foden dan gadeiryddiaeth annibynnol Jan Pickles OBE.
Mae disgwyl y casgliadau yn y gwanwyn a bydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Ond, mae yna bryderon ynglŷn â’r broses gyfathrebu ac amseru’r ymatebion.
Mae’r panel yn dweud y bydd y tîm adolygu yn cysylltu’n uniongyrchol gydag unigolion os ydyn nhw angen cyfarfod neu drafod unrhyw beth ymhellach.
- Cyhoeddwyd15 Hydref
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd8 Hydref
Mae rhai o fewn cymuned Ysgol Friars yn poeni am breifatrwydd a’r ymwybyddiaeth cyffredinol o broses yr adolygiad.
Mae rhieni yn honni nad ydyn nhw wedi cael manylion cyswllt uniongyrchol Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru.
Roedd llythyr at rieni Ysgol Friars fis Gorffennaf 2024 yn nodi y dylid anfon gwybodaeth at y panel drwy law y pennaeth neu at aelod o staff maen nhw yn “ymddiried” ynddyn nhw.
Rydyn ni’n deall nad oes yna gyfathrebu pellach wedi bod gyda rhieni.
Dywedodd rhai rhieni eu bod wedi eu “synnu” ac yn teimlo fod angen i unrhyw wybodaeth gael ei anfon yn uniongyrchol at y panel, nid drwy staff yr ysgol, a dywedodd nifer eu bod wedi eu “drysu” am yr adolygiad a’u gwaith.
Mae’r tîm adolygu'n dweud eu bod yn parhau i gwrdd ag aelodau'r cyhoedd a phobl broffesiynol y maent yn teimlo fydd yn cynorthwyo'r broses.
Dywedodd y tîm eu bod yn cynnig diweddariadau cyson, ac yn adolygu maes yr adolygiad "i adlewyrchu unrhyw bryderon newydd".
Arweinyddiaeth Ysgol Friars
Does gan Ysgol Friars ddim pennaeth parhaol ar hyn o bryd.
Mae David Healy, oedd yn ddirprwy bennaeth o dan Neil Foden, wedi bod yn gwneud y swydd fel pennaeth dros dros ers Medi 2023.
Fe gadarnhaodd cadeirydd y llywodraethwyr fod y swydd wedi ei “hysbysebu dair gwaith ond ni fu modd penodi yn barhaol hyd yma".
Dywedodd mai “un o'r prif faterion sydd wedi bod dan sylw dros y misoedd diwethaf ydy sicrhau arweinyddiaeth gadarn a sefydlog, sydd gyda'r weledigaeth i droi'r gornel a symud yr ysgol yn ei blaen dros y blynyddoedd nesaf".
“Mae trefniadau i benodi i’r rôl ar sail dros dro ar y gweill," meddai.
Dywedodd Cyngor Gwynedd fod recriwtio pennaeth parhaol wedi bod yn “heriol” a bod angen cynllun newydd. Gwnaed penderfyniad i recriwtio pennaeth dros dro er mwyn “sicrhau sefydlogrwydd” i’r ysgol.
Rydyn ni ar ddeall fod Mr Healy wedi gwneud cais am y swydd yn barhaol.
Cynllun Adfer Cyngor Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau y bydd ‘Cynllun Adfer’ swyddogol yn digwydd i gydnabod pob adolygiad ac ymchwiliad ac i adnabod pa gamau pellach sydd angen eu cymryd.
Ma’r awdurdod lleol yn dweud bod camau i adolygu prosesau mewnol yn cynnwys:
Bargyfreithiwr arbenigol annibynnol i gynnal ymchwiliad penodol i’r digwyddiadau yn 2019 a gyfeiriwyd atynt yn ystod achos llys Neil Foden;
Pwyllgor Craffu Addysg y Cyngor yn sefydlu ymchwiliad penodol i edrych ar drefniadau diogelu;
Adolygiad o adroddiad gan Bwyllgor Cwynion Annibynnol yn 2019 i faterion disgyblaeth yn Ysgol Friars er mwyn canfod os yw’r holl argymhellion wedi eu gweithredu;
Cyngor Gwynedd yn comisiynu adolygiad o sut mae’r cyngor yn ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn “sicrhau na fyddwn am eiliad yn anghofio am y rhai pwysicaf yng nghanol hyn, sef y merched a ddylai fod wedi bod yn ddiogel yn eu hysgol, a dyna pam ein bod yn mynd drwy’r prosesau a threfniadau hyn".
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.