'Braint' cynrychioli Cymru mewn hoci yn fy mhedwardegau

Dona (chwith) yn derbyn cap dros Gymru gyda Eleri Paice ac Eve Bowyer - y dair yn cyd-chwarae dros Gymru ac Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae Dona Viney newydd ddychwelyd o Dde Affrica, ar ôl cael profiad bythgofiadwy yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd Hoci dros 40 oed.
Mae hoci wedi bod yn rhan o’i bywyd ers iddi fod yn ddim o beth, ond doedd hi byth yn dychmygu y byddai hi’n cael gwisgo’r crys coch, meddai, a hynny am y tro cyntaf yn ei thridegau!

Mae Dona yn chwarae hoci i Gymru ac Abertawe
Ers pryd wyt ti’n chwarae hoci?
Dwi’n chwarae hoci ers yn fach, oedd Mam yn chwarae i dîm Porthmadog ac o’n i’n arfer teithio dros ogledd Cymru bob penwythnos efo hi yn cefnogi nes mod i’n ddigon hen i chwarae hefyd. Felly dwi ‘di chwarae i dimau ysgol, coleg a wedyn yn y brifysgol.
Dwi’n chwarae i dîm dros 40 Cymru ers dau dymor, a chyn hynny i’r tîm dros 35 – enillon ni fedal efydd yng Nghwpan y Byd 2022 – ac i ail dîm hoci Abertawe ers dros 10 mlynedd.
‘Nes i gyfarfod Tom (fy ngŵr) mewn parti drwy ffrindiau hoci, felly y gêm ddaeth â ni at ein gilydd.
Mae hi’n anodd meddwl am beidio chwarae hoci. Dim ots lle o’n i’n symud, roedd o’n ffordd i ‘neud ffrindiau a bod yn rhan o rywbeth.

Dona (ail o'r chwith, rhes flaen) yn chwarae gydag Ysgol Eifionydd yn 1996
Sut hwyl gawsoch chi yn y Cwpan y Byd draw yn Cape Town?
Roedd 16 o dimau yn ein hoedran ni, sef merched dros 40. Roedden ni yn y grŵp cychwynnol efo Awstralia (ennill 1-0), Ariannin (colli 2-1) a De Affrica (ennill 3-2).
Yna’r chwarteri yn erbyn Lloegr, 1-1 ar ddiwedd y gêm ond yn anffodus colli ar shuffles (fel cic o’r smotyn). Ymlaen i chwarae Singapore ac Uruguay a gorffen yn chweched yn y byd, felly dipyn o gamp.

Dona (ail o'r dde) a gweddill tîm hoci Cymru dros 40
Roedd Tom yn gapten ar y tîm dynion dros 35, oedd wedi chwarae’n rili da, ac wedi gorffen yn wythfed.
Roedd o’n brofiad anhygoel i’r ddau ohona ni, ac i’r plant oedd wedi dod i wylio pob gêm! Roedd bod allan yna wedi bod yn grêt i’r plant hefyd; gwlad gyda gymaint o hanes a’r plant wedi elwa gymaint o’r profiad. A gweld pob math o anifeiliaid; roedd gwylio morfilod yn y môr a saffari yn uchafbwynt.

Cafodd Dona a'i theulu brofiad anhygoel yn Ne Affrica
Wrth i ti fynd yn hŷn, ac wedi cael teulu, ydi hi wedi mynd yn anoddach i barhau â’r gamp?
Mae bendant yn anoddach rŵan. Dwi’n hyfforddi ddwywaith yr wythnos a chwarae bob dydd Sadwrn. Mae Tom yn chwarae hefyd a’r tri o blant (gyda Tom a fi yn hyfforddi yn y clwb) felly ‘da ni lawr wrth y caeau o leiaf bum diwrnod yr wythnos; mae’n ail gartref i ni.
Dwi’n hyfforddi ar wahân hefyd i helpu efo cadw’r corff i symud a gwaith cryfder. Ond dwi bendant ddim yn bownsio nôl fel oeddwn i’n arfer ‘neud!
Yn y cylch nesaf fydd cwpan Ewropeaidd yn Valencia ym mis Mehefin a’r Pedwar Gwlad yn yr Alban ym mis Awst. Mae dau brif dwrnament y flwyddyn a rhai llai i baratoi ar eu cyfer nhw.
Mae’r ffaith bod Tom yn chwarae hefyd yn ‘neud pethau’n brysur ond ‘da ni’n deall y gofynion ac yn helpu’n gilydd, ac yn dibynnu ar deulu a ffrindiau i helpu pan mae’r ddau ohona ni efo gêm a’r plant efo fixtures hoci neu bêl-droed.

Y criw yn mwynhau cynrychioli Cymru allan yn Ne Affrica
Beth wyt ti’n ei gael o chwarae hoci?
Dwi’n cael gymaint allan ohono fo. Dwi ‘neud ffrindiau oes ac mae cymuned ffantastig yn y clwb o’r rhai bach (o dan wyth oed) yr holl ffordd i’r seniors.
Dwi’n edrych ymlaen i hyfforddi a chwarae dim ots be’ ‘di’r tywydd a dim ots be’ sydd ‘di digwydd yn ystod y dydd. Amser fi ydi o a dwi’n falch bod Tom a fi yn dangos esiampl i’r plant a bod nhw’n gweld gwerth arbennig cadw’n ffit a bod yn rhan o dîm.

Mae Dona wedi gwneud ffrindiau oes (a chyfarfod ei gŵr!) drwy hoci
Sut beth ydi gwisgo’r crys coch a chael cynrychioli dy wlad?
Mae cynrychioli Cymru yn fraint ac yn rhywbeth o'n i ddim wedi disgwyl 'neud yn fy nhridegau a phedwardegau ond dwi wir yn mwynhau chwarae hoci fwy rŵan nag erioed.
Nes i gynrychioli Gogledd Cymru pan yn fengach a wedi meddwl nad oedd siawns cynrychioli Cymru wrth fynd yn hŷn, ond mae unrhywbeth yn bosib.
Mae’r timau yn mynd fyny i dros 75 oed, felly pwy a ŵyr os fydd yng nghoesau i dal i fynd erbyn hynny, ond fydda i’n trio!
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd14 Medi 2024
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2023