Winifred Coombe Tennant: Heddychwraig a Meistres y Gwisgoedd
- Cyhoeddwyd
Ffeminydd, ymgyrchydd, heddychwraig, cenedlaetholwraig; dyma rai o’r geiriau sy’n cael eu defnyddio i ddisgrifio Winifred Coombe Tennant.
Treuliodd ran helaeth o’i bywyd yn byw yn ardal Castell-nedd, yn gwasanaethu’n lleol a helpu’r dosbarth gweithiol. Roedd hi hefyd yn Feistres y Gwisgoedd yn yr Orsedd.
Ond yn ddiddorol, does yna ddim llawer o bobl wedi clywed amdani.
Dyma stori Winifred Coombe Tennant.
'Radical'
Cafodd ei geni ym mis Tachwedd 1874. Yn wreiddiol o Swydd Gaerloyw ac o deulu bonheddig, treuliodd dros 30 mlynedd yn ardal Castell-nedd ar ôl priodi Charles Coombe Tennant yn 1895, a oedd o deulu o dirfeddianwyr oedd wedi gwneud eu ffortiwn ar ôl sylweddoli fod glo a mwynau eraill ar eu tir.
Er ei magwraeth breintiedig, ei haddysg mewn ysgolion Gatholig yn Ffrainc a’r Eidal a’r arian teuluol oedd ganddi, roedd ganddi ddiddordeb mewn gwarchod pobl oedd ddim mor ffodus â hi, eglurodd Alun Wyn Bevan ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru:
“Roedd syniadau radicalaidd ‘da hi... roedd hi’n poeni am y llai breintiedig yn ein cymdeithas ni.
“Roedd hi’n ffeminydd – roedd hi am sicrhau’r bleidlais i ferched, mewn cyfnod anodd iawn i wragedd – roedd hi’n suffragist, roedd hi’n heddychwraig.
“Y prif reswm am hynny oedd fod ei thad wedi teithio o gwmpas y byd ac yn casáu’r gair ‘rhyfel’ – pan fyddai e yn clywed sôn am "Britain Rules the Waves", oedd e’n mynd yn wallgo'.
“Felly ‘naeth Winifred etifeddu’r elfen yna o’i gymeriad e.”
Ymysg rhai o’i rolau dylanwadol dros y blynyddoedd oedd Ustus Heddwch – y fenyw gyntaf i ddal y swydd yn ne Cymru – a chynrychiolydd benywaidd cyntaf Prydain yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn 1922, yn dadlau ar faterion fel rhoi stop ar gludo a chamdrin merched a phlant.
Roedd hi’n ymwelydd rheolaidd â’r carchar yn Abertawe, a helpodd i wthio newidiadau a oedd yn gwella lles y carcharorion. Cafodd y newidiadau yma wedyn eu mabwysiadu gan garchardai eraill ledled y Deyrnas Unedig.
Roedd hi’n llywydd cangen Castell-nedd o’r National Union of Women’s Suffrage Societies, ac yn ystod y Rhyfel Mawr, roedd hi’n ddirprwy swyddog ar Gymdeithas Amaeth Gwragedd Morgannwg.
Ynghyd â materion lleol, roedd ganddi hefyd ddiddordeb mewn materion ehangach, eglurodd Alun Wyn Bevan:
“Roedd hi hefyd yn genedlaetholwraig – roedd hi am hunan-lywodraeth i Iwerddon; roedd hi’n ffrindiau gyda Michael Collins. Roedd hi moyn hunan-lywodraeth i Gymru.”
Cymreictod
Er ei bod wedi ei geni yn Lloegr, roedd ei mam o Abertawe, ac fe gymerodd at Gymru a’r ffordd Gymreig o fyw pan fu’n byw yn Cadoxton Lodge sef cartref teuluol ei gŵr.
“Buodd hi’n byw yng Nghastell-nedd am 30 o flynyddoedd, a bob bore, byddai hi’n gwisgo’r wisg Gymreig tan 12 o’r gloch.”
Doedd hi ddim yn medru'r Gymraeg, ond roedd hi’n Eisteddfodwraig frwd, ac roedd Winifred, neu Mam o Nedd o roi ei henw gorseddol, yn gweithio fel Meistres y Gwisgoedd i’r Orsedd am dros ugain mlynedd o 1928.
Yn ôl Alun Wyn Bevan, mae diolch iddi am ddod â’r Eisteddfod Genedlaethol i Gastell-Nedd yn 1918.
“O’dd hi wrth ei bodd adeg yr Eisteddfod. Yn 1918, pan oedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn dirwyn i ben a dim un tref yng Nghymru am wybod fawr o ddim am yr Eisteddfod, dyma hi yn dylanwadu ar y bobl yng Nghastell-nedd i wahodd yr Eisteddfod.
"Fe lwyddodd i gael David Lloyd George, y Prif Weinidog ar y pryd; fe ddaeth e lawr i’r Gymanfa. Roedd gymaint o bobl moyn tocynnau i’r Gymanfa, dyma nhw’n trefnu fod 10,000 yn bresennol yn y babell yn y prynhawn, a 10,000 yn y nos.”
Bywyd yn Llundain
Ar ôl i’w gŵr farw yn 1928, symudodd i Lundain, gan rwbio ysgwyddau â rhai o enwau mawr y cyfnod.
“Roedd gan ei mam-yng-nghyfraith gartref wrth ymyl Downing Street yn Llundain," eglurodd Alun Wyn Bevan. "Roedd hi’n gwahodd mawrion y cyfnod i bartïon; pobl â stamp a chalibr, pobl fel Aldous Huxley, Robert Louis Stevenson – roedd hi’n mynd ar wyliau i’w gartref ef yn Ffrainc."
Mae sôn fod y ffaith ei bod hi’n brydferth wedi achosi iddi ddenu llygad ambell i wleidydd. Roedd hi’n gyfeillgar gydag ambell i Brif Weinidog o’r cyfnod; H.H Asquith, roedd David Lloyd George yn gyfaill i’r teulu Coombe Tennant, ac mae sôn ei bod wedi cael plentyn gyda brawd Alfred Balfour, Gerald.
Roedd ei bywyd personol yn ddiddorol hefyd. Roedd ganddi ddiddordeb mewn ysbrydegaeth (spiritualism) ac yn gwneud ychydig o waith fel cyfryngwraig (medium) o dan yr enw Mrs Willett, er fod hyn yn rhywbeth roedd hi wedi ei gadw'n gyfrinach oddi wrth ei theulu am ddegawdau.
Gwaddol
Roedd y celfyddydau hefyd yn mynd â’i bryd, ac mae hi wedi gadael ei hôl hyd heddiw.
“Roedd hi â diddordeb mawr mewn celf; roedd hi’n prynu gweithiau meistri (i oriel) Glynn Vivian. Roedd hi’n datblygu, meithrin a hybu artistiaid ifanc, gan gynnwys Augustus John, Evan Walters a’r Kyffin Williams ifanc.”
Pan fu farw yn 1956, gadawodd rodd ariannol i’r Eisteddfod yn ei hewyllys.
Roedd Winifred Coombe Tennant yn ddynes ddylanwadol mewn nifer o ffyrdd, meddai Alun Wyn Bevan, a dylai fwy o bobl wybod amdani:
“Roedd hi wedi cyfrannu gymaint, ac mae’n gywilydd mod i wedi byw rhyw 300 llath o’i chartref, ac wedi gwybod dim amdani tan rhyw 10 mlynedd yn ôl. Roedd hi’n fenyw ryfeddol.”
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd23 Awst
- Cyhoeddwyd12 Mehefin