Pwysigrwydd corsydd Cymru i’r amgylchedd
- Cyhoeddwyd
Pan rydych chi’n sefyll ar dir mawn yng Nghymru rydych chi’n debyg o fod yn sefyll ar gwerth miloedd o flynyddoedd o garbon wedi ei ddal yn y pridd, sy’n golygu ei fod yn adnodd hollbwysig i fynd i’r afael â chynhesu byd-eang, meddai Dr Rhoswen Leonard.
Mae Dr Leonard yn rheoli prosiect cenedlaethol i wella ein mawndiroedd ar ôl degawdau o ddirywiad oherwydd ein harferion ni fel pobl.
Math o dir gwlyb sydd wedi ffurfio gan haenau o ddeunydd organig fel planhigion wedi pydru dros filoedd o flynyddoedd ydi mawndir.
Gall un metr o fawn gymryd hyd at 1,000 o flynyddoedd i ffurfio.
“Maen nhw’n gorchuddio dim ond 4% o dir Cymru ond maen nhw’n dal dros 30% o garbon tir Cymru,” eglurodd Dr Leonard ar BBC Radio Cymru.
“Felly o ran y tir maen nhw’n storfa ddwys iawn o garbon.
“Mae’n cymryd 300 mlynedd i ffurfio 30cm o fawn ar raddfa o un milimedr bob blwyddyn felly does dim modd ailwneud mawn; chi’n ffaelu ailblannu mawn.
“Hefyd maen nhw’n gyfoethog iawn o ran bioamrywiaeth. Maen nhw’n gartref i lot o rywogaethau prin a diddorol iawn, fel y gylfinir a chwys yr haul neu dafod y gors, planhigion sy’n bwyta pryfed.
“Maen nhw jyst yn llefydd hyfryd unwaith chi’n dechrau sylweddoli a gwerthfawrogi yr elfennau gwahanol maen nhw’n dod i ni fel pobl yng Nghymru a draws y byd,” meddai.
Gollwng nwyon tŷ gwydr
Ond mae’r rhan fwyaf o’n mawndiroedd ni mewn cyflwr gwael ac o’r herwydd yn fwy tebyg o fod yn rhyddhau nwyon yn lle eu cloi yn y pridd.
“Mae tua 90% o’n mawndiroedd ni wedi eu difrodi mewn rhyw ffordd,” meddai Dr Leonard, rheolwr y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd sy’n cael ei rhedeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.
“Effaith difrodi mawndir yw cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr.
“Felly mae’r rhaglen dwi’n gweithio arno yn rhaglen genedlaethol i weithredu gwaith adfer ar fawndiroedd a chael y mawndiroedd ’ma mewn i gyflwr lle mae’r storfa garbon a’r gwerth bioamrywiaeth yn dod nô֧l i’w potensial llawn."
“Mae’r corsydd, yn eu cyflwr wedi difrodi, yn rhyddhau carbon i’r atmosffer ond wrth ein bod ni’n gwneud gwaith adfer rydyn ni o leiaf yn lleihau allyriadau carbon sy’n dod oddi wrth y mawndiroedd.
“Hefyd pan maen nhw mewn cyflwr da wedyn maen nhw’n gallu amsugno carbon o’r atmosffer.”
Astudio corsydd
Ers gwneud ei gradd gyntaf mewn gwyddoniaeth amgylcheddol yn Aberystwyth a chael ei swydd gyntaf yn astudio corsydd ar Ynys Môn mae Dr Rhoswen Leonard yn angerddol am warchod tir mawn Cymru.
Fe wnaeth ei hymchwil ar gyfer ei doethuriaeth ar fawndiroedd yng Nghanada.
Mae hi wedi bod yn siarad am y pwnc yr wythnos yma yng nghynhadledd Wythnos Hinsawdd Cymru Llywodraeth Cymru a ddechreuodd yr un pryd â chynhadledd newid hinsawdd COP29 y Cenhedloedd Unedig ddydd Llun.
Mae ein mawndir wedi cael ei ddifrodi mewn gwahanol ffyrdd dros y blynyddoedd meddai Dr Leonard ond mae un ffactor cyffredin – ymyrraeth pobl.
Torri mawn
Ers talwm, roedd pobl yn torri mawn ar gyfer ei losgi i wresogi eu cartrefi. Roedd yn arfer pwysig i sawl cymuned wledig ac yn rhan o ffordd draddodiadol o fyw ar y tir.
Ond yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru mae’n un o’r pethau sydd wedi cyfrannu’n helaeth at leihau ein canran o fawndir yng Nghymru.
Mae arbenigwyr wedi dod i’r casgliad bod mwy o fawndir yn arfer bod yng Nghymru ond bod llawer wedi cael ei godi, yn bennaf fel tanwydd domestig neu wedi troi’n rhostir neu dir pori corsiog.
Mae’r arfer o godi mawn wedi dod i ben yng Nghymru bellach ac mae gwerthu mawn fel compost i gael ei wahardd erbyn diwedd 2024.
Mae’r mawndir dyfnaf yng Nghymru tua 12 metr, sy’n golygu fod mawndir wedi dechrau ffurfio yma 12 milenia yn ôl, sy’n 12 milenia o storio carbon.
Mae draenio tir dros y 300 mlynedd diwethaf ar gyfer amaethyddiaeth a choedwigaeth hefyd wedi difrodi mewndir. Mae’r achosion eraill yn cynnwys gorbori, tanbori, llosgi a llygredd o wrtaith, tail a nitrogen yn yr aer ac yn y glaw hefyd.
Y brif ffordd mae’r prosiect yn ceisio dadwneud y difrod yma yw drwy ailwlychu tir mawn a thir corslyd, sef y gwrthwyneb i beth mae sawl ffermwr wedi ceisio ei wneud i wella tir amaeth dros flynyddoedd.
“Y brif elfen ry’n ni’n trio taclo fel rhaglen yw’r ffaith fod corsydd sydd wedi sychu am ryw reswm yn cyfrannu at allyriadau carbon a gyda safon bioamrywiaeth is na bysen nhw pe bysen nhw’n wlyb.
“Felly mae’r gwaith adfer yn cael ei dargedu at codi lefelau dŵr mawndiroedd fel bod nhw’n gallu cyfrannu eu potensial llawn i’n helpu ni i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.”
Mae’r rhaglen sy’n cael ei chynnal ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud llawer o waith mewn partneriaethau gan gynnig grantiau i ffermwyr a thirfeddianwyr adfer mawndir ac ar gyfer prosiectau cadwraeth.
Gallwch wrando ar sgwrs Dr Rhoswen Leonard ar Bore Sul, Radio Cymru fan hyn: Bore Sul - Alun Thomas yn cyflwyno - BBC Sounds
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2018