Mei Mac a'r gwaith o ddiogelu enwau Cymraeg

Meirion Macintyre Huws
  • Cyhoeddwyd

Mae prosiect i warchod enwau Cymraeg ar dai yn "mynd i'r cyfeiriad cywir', gyda 96% o dai newydd yng Ngwynedd yn Gymraeg yn unig, meddai'r prifardd Meirion Macintyre Huws.

Roedd Mei Mac yn sôn am ei rôl dros dro gyda Chyngor Gwynedd yn diogelu enwau lleoedd Cymraeg wrth gael ei holi ar raglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mei Mac mae rheolau newydd ynglyn â newid tai yn ail gartefi yn helpu gwarchod enwau Cymraeg

"Mae Cyngor Gwynedd wedi gweld cynnydd dros y blynyddoedd o bobl yn newid eu tai i enwau Saesneg neu troi nhw yn Airbnbs, rhoi enwau Saesneg arnyn nhw a colli enwau hyfryd i ryw Seagull Shack a rhyw enwau fel yna sy'n golygu dim byd.

"Ac fel rhan o warchod yr enwau 'ma fe wnaeth nhw sefydlu prosiect a chael swyddog prosiect - swydd dros dro ydi hi - a be fyddai'n wneud ydi trio dal pen rheswm gyda pobl fel yr OS - yr Arolwg Ordnans- i gael sillafiadau call a chywir o enwau llefydd ar fapiau.

"A bod nhw ddim yn newid nhw ar fapiau i enwau Saesneg dieithr, dŵad a newydd felly."

Her yr oes ddigidol

Ar y rhaglen mae Mei Mac, a enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd yn 1993, hefyd yn sôn am yr heriau digidol sy'n wynebu enwau lleoedd Cymraeg.

"Mae mwy a mwy o ddefnydd ar faps digidol rŵan - a ma' gan y byd a'i nain fap yn ei boced ffôn.

"Erstalwm atlas oedd gennym ni neu fap yn y tŷ - ac oherwydd hynny maen nhw yn gosod enwau ar y mapiau 'ma a rhan o'n ngwaith i ydi trio dod o hyd i ffyrdd i atal hynny."

Dywedodd fod hynny yn waith anodd - ond bod deddfwriaeth newydd yn gymorth.

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mei Mac yn cael ei gadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd yn 1993

"Os 'da chi eisiau newid eich tŷ i fod yn dŷ haf neu yn Airbnb er enghraifft, mae'n rhaid cael caniatâd cynllunio a ma' hynny yn rhoi stop ar gynlluniau lot o bobl i wneud hyn.

"Hefyd mae o'n ddisgwyliad gan Gyngor Gwynedd, os 'da chi yn codi tŷ newydd neu yn newid enw eich tŷ fod chi'n rhoi enw sydd â chysylltiad Cymraeg - enw Cymraeg sydd â chysylltiad hanesyddol neu ddiwylliannol efo'r ardal, ac erbyn hyn mae dros 96% o enwau tai newydd yng Ngwynedd yn Gymraeg yn unig.

"Felly de ni'n mynd i'r cyfeiriad iawn beth bynnag."

'Yr ifanc yw'r dyfodol'

Ond beth am ddyfodol yr iaith ym marn Meirion Macintyre Huws?

Yn ei Awdl fuddugol nôl yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd yn 1993 mae'r prifardd yn sôn am yr hen do yn anobeithio am ddyfodol Cymru a'r iaith tra bod yr ifanc yn llawn hyder.

'Ni yw'r her

yn dwf o hyder, Ni yw'r dyfodol.'

Dywedodd fod y farn honno, yn yr awdl, yn dal i sefyll, sef mai'r ifanc yw'r dyfodol.

Ond ychwanegodd ei fod o, o ran y sefyllfa bresennol yn gweld dau beth...

"Dwi'n gwaredu mynd i rai llefydd a chlywed bod yna gyn lleied o Gymraeg - lle o'n i'n gallu mynd erstalwm a chlywed y Gymraeg ym mhob man, ac weithiau safon y Gymraeg mewn llefydd - a dwi'n gwaredu.

"Ond wedyn 'dwi'n edrych ar Facebook a Twitter a phethau 'ma, ma' 'na gymaint o Gymraeg yn cael ei ddefnyddio, yn ein cynghorau ni, ar y radio - dim ond ar Radio Cymru ers talwm oedd rhywun yn cael clywed caneuon Cymraeg.

"Ma' nhw ar sawl sianel erbyn hyn - 'dwi'n clywed nhw o hyd ac felly mae yna symud yn fanna, y Gymraeg yn cael ei defnyddio mwy a mwy."

Ffynhonnell y llun, Adwaith
Disgrifiad o’r llun,

Mae bandiau fel Adwaith yn cael eu clywed ar sianeli poblogaidd fel Radio 1 a 6music yn ogystal â Radio Cymru

"Cofio pan o'n i'n hogyn bach, byddai pobl drws nesa yn gyrru cerdyn post i ni o Blackpool. Cymry Cymraeg oedd y rhain efo prin iawn o Saesneg.

"Mi fydda nhw'n gyrru cerdyn post i ni 'Having a wonderful time - the weather isn't too bad.'

"Felly mae'r byd 'di newid er gwell mewn un ffordd ond eto er gwaeth mewn ffyrdd eraill.

"Dim ond gobeithio rŵan ma' yna do ifanc brwd arall o bobl ifanc sy'n barod i gydio yn yr awenau."

Pynciau cysylltiedig