Bywyd 'heriol ond hudolus' ar Ynys Enlli
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Profiad bywyd
Mae Mari Huws ac Emyr Owen yn gweithio fel wardeiniaid ar Ynys Enlli, ynys fach oddi ar arfordir Pen Llŷn.
Maen nhw wedi bod yno ers pum mlynedd ac yn mwynhau byw yng nghanol harddwch byd natur yr ynys.
“Mae’r blynyddoedd yn gwibio heibio," meddai Mari. "Mae pob prosiect yn cymryd hirach na ti’n ei feddwl!
“O’n i’n meddwl mai profiad bywyd fyddai o, dim bywyd ni! Rydyn ni’n hapus iawn ar y funud; pwy a ŵyr faint yn hirach fyddwn ni yma.”
Mae bywyd yn sicr wedi newid i’r cwpl dros y bum mlynedd ddiwethaf. Mae eu merch, Lleucu, bron yn flwydd a hanner, felly dim ond bywyd ar Ynys Enlli mae hi’n ei adnabod.
“Maen nhw’n dweud mai dwy flynedd cyntaf ein bywydau ni ydi’r blynyddoedd sydd yn dylanwadu fwyaf; er mae’n siŵr fydd hi ddim yn cofio llawer o hyn, fydd o yn ei natur hi.
“Mae o’n fraint; dim llawer o bobl sydd wedi magu ar Enlli.”
Heriau
Swydd Mari ac Emyr yw cynnal a chadw adeiladau’r ynys a rhoi croeso i ymwelwyr. Mae’n waith caled, corfforol, sydd yn cael ei wneud yn anoddach gan eu bod yn byw ar ynys ynghanol y môr, meddai Mari wrth Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.
“Mae yna lawer o heriau efo prosiectau mawr. Mae unrhyw waith adeiladu yn cymryd gymaint o waith paratoi, ac wedyn mae o i gyd yn nwylo y tywydd yn y diwedd.
“Mae'r flwyddyn waith yn fyr. Ti ddim eisiau trefnu dim byd cyn mis Ebrill ac ar ôl diwedd Medi; dim ond hanner y flwyddyn sydd gen ti i wneud gwaith sylweddol ar yr adeiladau. Mae yna lot o logistics.”
Er hynny, mae’r teulu yn mwynhau eu hamser hudolus ar Enlli, gyda Mari yn cymharu’r cyfnod fel stori tylwyth teg, lle mae bywyd ar y tir mawr yn mynd ar gyflymder gwahanol i fywyd yr ynys:
“Wrth gwrs mae ‘na heriau, ond pan ti’n edrych yn ôl, mae o i gyd fel breuddwyd. Pan fyddwn ni’n gadael - fydd rhaid i ni adael rhyw ddydd – bydd bywydau pawb arall wedi symud ymlaen gymaint."
Ynys yr 20,000 o sêr
Mae Ynys Enlli yn cael ei hadnabod fel ynys yr 20,000 o seintiau, ac yn lle sydd yn denu ymwelwyr a phererinion.
Yn 2023, cafodd Ynys Enlli statws Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol; y lle cyntaf yn Ewrop i gael y teitl, ac un o dim ond 17 safle drwy’r byd.
“Mae o'n rhywbeth i ni fod yn falch ohono. Mae o wedi dod â lot o sylw i’r ynys," meddai Mari.
“Mae nifer o bobl yn cyrraedd Enlli, a dwi’n teimlo fod nifer o bobl wedi dod ar ryw fath o bererindod.
“Dwi’n atgoffa fy hun pa mor arbennig ydi o i bobl fod yn cyrraedd yma; mae o’n golygu lot i lot o bobl.
“Os ti’n aros noson yma, ti’n gweld yr un sêr byddai'r mynaich wedi gweld, 1,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae o'n clymu’r gorffennol â’r presennol. Mae o’n fraint.”
Geirfa
heriol / challenging
hudolus / magical
wardeiniaid / wardens
arfordir / coast
harddwch / beauty
gwibio / to speed
profiad / experience
pwy a ŵyr / who knows
adnabod / to recognise
dylanwadu / to influence
braint / privilege
magu / to rear
cynnal a chadw / maintenance
ymwelwyr / visitors
corfforol / physical
anoddach / more difficult
heriau / challenges
paratoi / preparation
trefnu / to organise
sylweddol / substantial
cymharu / to compare
tylwyth teg / fairies
cyflymder / speed
breuddwyd / a dream
seintiau / saints
denu / to attract
pererinion / pilgrims
sylw / attention
pererindod / pilgrimage
statws Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol / International Dark Sky Sanctuary status
atgoffa / to remind
mynaich / monks
clymu / bind
gorffennol / past
presennol / present
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd16 Medi 2020
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2024