Wyddoch chi... am forlewod Llyn Tegid a’r Rhyfel Mawr?
- Cyhoeddwyd
Efallai eich bod wedi clywed am anghenfil Llyn Tegid, ond oeddech chi’n gwybod bod y llyn ger Y Bala wedi bod yn gartref i forlewod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf?
Roedd Glan-llyn, lle mae gwersyll Yr Urdd heddiw, yn lleoliad arbrawf arbennig i geisio hyfforddi morlewod i ysbïo ar longau tanfor yr Almaenwyr fel rhan o’r ymdrech ryfel.
Ers dechau’r rhyfel yn 1914 roedd nifer fawr o longau’r Llynges wedi cael eu dryllio gan longau tanfor yr Almaenwyr a’r fyddin yn poeni’n fawr am fygythiad y llongau-U peryglus ac yn chwilio am atebion.
Tua 1916, daeth y dyn sioeau, ‘Capten’ Joseph Woodward, ymlaen a chynnig y gallai ddysgu’r morlewod roedd wedi eu hyfforddi i wneud triciau yn ei sioeau enwog, i ddarganfod llongau-U yn hytrach nac adlonni ar lwyfan.
Ar ôl arbrofi i ddechrau mewn pyllau nofio yn Glasgow a Westminster, cafodd degau o’i anifeiliaid eu symud i Lan-llyn ar lannau Llyn Tegid.
Yn ôl yr hanes rhoddodd y tirfeddiannwr Syr Watkin Williams-Wynn, perchennog plasty Glan-llyn ar y pryd, le i gartrefu tua 50 o forlewod ar ei stad a rhoi defnydd o’i gychod i’r tîm hyfforddi.
Y syniad oedd eu hyfforddi i glywed a dilyn sŵn tebyg i long danfor gan anfon signal yn ôl i ddangos y lleoliad. Roedden nhw’n cael eu gwobrwyo gyda thunelli o bysgod.
Yn ôl archifau Prifysgol Bangor: “Yn anffodus nid oedd yn dasg hawdd eu rheoli - er mwyn cadw llygad ar y morloi roedd yn rhaid eu paentio mewn lliwiau llachar a bu'n rhaid rhoi llawer iawn o bysgod iddynt i'w gwobrwyo.”
Treialon môr... a methiant
Buon nhw yn y Bala rhwng diwedd Mawrth a dechrau Gorffennaf 1917.
Roedd yr hyfforddi yng Nglan-llyn wedi bod yn ddigon o lwyddiant i’r Morlys gytuno i fwrw mlaen i wneud treialon yn y môr gyda llong danfor go iawn.
Dewiswyd dau fôr-lew i roi cynnig arni yng nghulfor y Solent ar arfordir de Lloegr gydag un o longau tanfor y Llynges.
Ond yn anffodus, yn y môr mawr swnllyd oedd yn fwrlwm o bysgod blasus aeth yr holl hyfforddiant drwy’r ffenestr a threuliodd y morlewod oriau ar goll yn nofio ar ôl heigiau o bysgod.
“Dangosodd yr arbrawf mai am fwyd yr oedd eu greddf gryfaf ac nid dilyn llongau tanfor, ac ni wnaeth y cynllun fyth ddwyn ffrwyth,” meddai’r cofnod yn archif Prifysgol Bangor.
Cafodd nifer o anifeiliaid eu defnyddio yn y Rhyfel Byd Cyntaf, o’r ceffylau ar y ffrynt i’r mulod a’r eliffantod ddefnyddiwyd i gario a thynnu peiriannau trwm.
Amcangyfrifir bod wyth miliwn o geffylau wedi’u eu lladd ar ddwy ochr yr ymladd. Cafodd cŵn a cholomennod eu defnyddio hefyd, y naill i synhwyro peryglon a’r llall i gario negeseuon.
Ond, ni fu raid i forlewod Joseph Woodward fynd i ryfel yn y diwedd ac aethant nôl i jyglo a diddanu, gyda Woodward erbyn hyn yn eu hysbysebu ar ei bosteri fel “The Actual Admiralty U-boat Hunting Sea-Lions".
Triniaeth anfoesol o anifeiliaid?
Ond, er methiant y prosiect arbennig hwn, efallai nad oedd syniad Joseph Woodward, ymhell ohoni, er y byddai’n cael ei ystyried yn anfoesol heddiw o ran hawliau anifeiliaid; mae’r Unol Daleithiau wedi defnyddio morlewod a dolffiniaid mewn gweithgaredd milwrol ers diwedd yr Ail Ryfel Byd fel rhan o’u rhaglen mamaliaid môr dadleuol.
Mae adroddiadau fod hynny’n digwydd gyda morfilod yn Rwsia hefyd.
A phwy a ŵyr, tybed a ydi hi’n bosib mai un o ddisgynyddion coll morlewod Joseph Woodward allai fod wrth wraidd yr adroddiadau am weld ‘anghenfil’ yn llyn Tegid yn yr 1970au?
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2018