Dyn yn parhau mewn cyflwr difrifol wedi ymosodiad yn Y Rhyl

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad y tu allan i The Tiki Room am oddeutu 03:10
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn parhau mewn cyflwr difrifol wedi ymosodiad ar Stryd Sussex yn Y Rhyl yn gynnar fore Sadwrn.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad y tu allan i The Tiki Room am oddeutu 03:10.
Cafodd y dyn ei drosglwyddo i Ysbyty Stoke a ddydd Sul mae'n parhau mewn cyflwr difrifol.
Mae dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o anafu wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Mae'r Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwcharolygydd Rebecca Hughes yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu â'r heddlu.
"Roedd nifer o bobl yn cymdeithasu yn y Tiki Room, a thu allan gerllaw, adeg y digwyddiad fore Sadwrn," meddai.
"Rwy'n awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd unrhyw beth, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth, ac yn gofyn iddyn nhw gysylltu â swyddogion cyn gynted â phosibl.
"Hoffwn hefyd dawelu meddwl y cyhoedd gan ei bod hi'n ymddangos bod hwn yn ddigwyddiad ynysig."