Dyn, 40, wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Ringland am tua 18:40 nos Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae un dyn wedi marw ac un arall wedi ei anafu mewn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur yng Nghasnewydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Ringland ar gyrion y ddinas am tua 18:40 nos Sadwrn.
Dau feic modur oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad - un Yamaha du ac un Kawasaki coch.
Bu farw gyrrwr y Kawasaki, dyn 40 oed, yn y fan a'r lle ac mae ei deulu bellach yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Cafodd gyrrwr y Yamaha, dyn 46 oed, ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad, ond y gred yw nad yw ei anafiadau yn rai sy'n peryglu bywyd.
Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau fideo all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.