Teyrngedau i gyn-gadeirydd Cyngor Ceredigion Paul Hinge
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi yn dilyn marwolaeth y cyn-filwr a'r cynghorydd sir Paul Hinge.
Roedd wedi cynrychioli ward Tirmynach, ger Aberystwyth, ar Gyngor Sir Ceredigion ers 2008.
Roedd hefyd yn gadeirydd ar y cyngor rhwng 2021 a 2022 mewn cyfnod "arbennig o heriol", medd y cyngor, yn sgil y pandemig.
Yn y cyfnod hwn, medd llefarydd y cyngor, roedd Mr Hinge, wedi dangos "ei allu i addasu a chofleidio’r dechnoleg ddiweddaraf, gan fod y cadeirydd cyntaf i gyflawni ei rôl yn rhithiol".
Bu hefyd yn gadeirydd ar nifer o bwyllgorau'r awdurdod - yn fwyaf diweddar, tan ei farwolaeth, y Pwyllgor Troseddau.
Rhoi llais i gyn-filwyr 'yn bwysig iddo'
Y Cynghorydd Hinge oedd Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yng Ngheredigion - rôl, medd y cyngor, oedd "yn bwysig iddo", ag yntau ei hun wedi gwasanaethu gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
Roedd "yn frwd dros ddarparu cymorth a sicrhau bod cyn-filwyr y Lluoedd Arfog ledled y sir gyfan yn cael llais" medd y llefarydd, ac "yn ddiysgog wrth hyrwyddo egwyddorion rhyddid a democratiaeth".
Yn sgil y rôl fe gafodd wahoddiad i goffáu 40 mlynedd ers diwedd Rhyfel y Falklands fel gwestai arbennig llywodraeth yr ynysoedd.
Dywedodd cangen Aberystwyth o'r Lleng Brydeinig bod Mr Hinge "yn aelod ffyddlon" ac yn chwarae "rhan weithredol, yn enwedig o ran trefnu digwyddiadau'r Cofio yn ardal Aberystwyth, ac fe fydd colled fawr ar ei ôl".
Mae penaethiaid Cyngor Sir Ceredigion wedi mynegi tristwch o glywed am farwolaeth Mr Hings, gan gydymdeimlo â'i deulu a ffrindiau.
Fe wasanaethodd ei ward "yn ddyfal", meddai arweinydd y cyngor, Bryan Davies, "ac roedd yn wyneb cyfeillgar i drigolion Ceredigion".
Dywedodd y prif weithredwr, Eifion Evans: "Roedd ei ymrwymiad diwyro fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yng Ngheredigion a’i wasanaeth rhagorol fel cyn-Gadeirydd y Cyngor wedi bod o fudd mawr i’n cymuned."
Ychwanegodd ei fod "yn eiriolwr angerddol dros gyn-filwyr y Lluoedd Arfog ac yn gynghorydd uchel ei barch a oedd bob amser yn blaenoriaethu lles trigolion Ceredigion".
Roedd Mr Hinge yn ddirprwy arweinydd grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol ar y cyngor.
Dywedodd arweinydd y grŵp, Elizabeth Evans eu bod "wedi llorio" ar ôl colli "cydweithiwr a ffrind annwyl" a'i fod wedi cyflawni "rhestr hir" o orchestion ar ran trigolion y sir.
Cefnogwr 'ffyddlon' clybiau chwaraeon lleol
Cafodd munud o dawelwch ei gynnal cyn gêm gyfeillgar Clwb Rygbi Aberystwyth brynhawn Sadwrn er teyrnged i Mr Hinge.
Dywedodd y clwb: "Byddai Paul bob amser i'w weld wrth y gât ar ddydd Sadwrn, yn siarad a chroesawu ein cefnogwyr, ac yr oedd Clwb Rygbi Aber yn bwysig iawn iddo.
"Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i Shirley, a'i deulu ar yr amser torcalonnus hwn."
Roedd yna gyfnod o dawelwch hefyd yn ystod gemau Clwb Pêl-droed Bow Street dros y penwythnos, ble roedd "yn gefnogwr ffyddlon" oedd "newydd ymroddi i noddi chwaraewr am flwyddyn arall".
Ychwanegodd y clwb bod ei gyfraniad i'r pentref "yn ddifesur".