£75m i greu 'ffatri grawnfwyd fwyaf Ewrop' yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Bydd 130 o swyddi gael eu creu yn Wrecsam yn yr hyn sy'n cael i alw'n "ffatri grawnfwyd fwyaf Ewrop".
Mae cwmni rhyngwladol Kellanova wedi cyhoeddi y byddan nhw'n buddsoddi £75m mewn cyfleusterau newydd ar eu safle y tu allan i'r ddinas.
Mae'r ffatri, sy'n cyflogi 350 o staff ar hyn o bryd, yn cynhyrchu brandiau adnabyddus fel Special K, All Bran a Fruit 'n Fibre.
Ond fel rhan o'r datblygiad mae Kellanova - oedd yn arfer cael ei alw'n Kellogg Company - yn symud cynhyrchiant Corn Flakes a Crunchy Nut o'u ffatri ym Manceinion i'r cyfleuster newydd yn Wrecsam.
Bydd lefel cynhyrchiant y safle'n cael ei ddyblu i 1.5 miliwn o focsys bob dydd, gan olygu, medd y cwmni, mai dyma'r ffatri'r fwyaf o'i math yn Ewrop.
'Cartref i'n grawnfwyd am genedlaethau'
Agorwyd y ffatri gan Kellogg's yn 1978 ac mae Kellanova'n dweud mai'r cyhoeddiad ddydd Iau ydy'r buddsoddiad unigol mwyaf ganddyn nhw ym Mhrydain ers 30 mlynedd, gydag "o leiaf" 130 o swyddi newydd.
Yn ôl rheolwr gyfarwyddwr Kellanova ym Mhrydain, Chris Silcock: "Mae'r buddsoddiad hwn yn ymrwymiad mawr i gynhyrchu grawnfwyd yn y DU.
"Trwy ddod â gweithgynhyrchu ein holl rawnfwydydd brecwast mawr at ei gilydd ar un safle yn Wrecsam, gallwn gymryd camau breision ymlaen o ran effeithlonrwydd, ansawdd a chynaliadwyedd ein gweithrediad.
"Rydym yn edrych ymlaen at wneud Wrecsam yn gartref i'n grawnfwyd am genedlaethau lawer i ddod."
Mae'r cwmni'n honni y bydd y datblygiad yn lleihau ei hallyriadau carbon deuocsid 11%, gyda'r defnydd o ddwy linell gynhyrchu newydd yn gweithio gyda deallusrwydd artiffisial a thechnoleg dysgu peiriannau.
Mae hefyd yn dweud y gellir defnyddio mwy o'r deunyddiau crai - er enghraifft, reis -gan sicrhau "gostyngiad 10 gwaith" mewn gwastraff bwyd.
Bydd llinellau pecynnu newydd hefyd yn cael eu hychwanegu, a bydd llinellau cynhyrchu presennol yn cael eu huwchraddio i wella effeithlonrwydd.
Bydd buddsoddiad hefyd mewn hyfforddiant staff.
Fe gyhoeddodd y cwmni'n flaenorol y byddai safle Kellanova ym Mharc Trafford, Manceinion yn cau yn 2026.
'Diwylliant ardderchog'
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Iau dywedodd rheolwr cyllid Kellanova ar y safle, Kathryn Phillips bod yr ardal yn barod am gyfnod "prysur iawn."
“’Da ni efo pobl dda efo'r skills iawn i ‘neud y pethau newydd, a ma’r diwylliant yn ardderchog yma so ma’ pobl yn gweithio’n galed a ma’ nhw’n barod i 'neud rhywbeth newydd.
“’Da ni mynd i gael defnyddio lot o dechnoleg AI. Ma’ hwnna'n mynd i helpu ni defnyddio llai o garbon a gwastraffu llai o fwyd hefyd.
"Dwi’n edrych ymlaen i fod y ffatri [grawnfwyd] fwyaf yn Ewrop - mae'n mynd i fod yn brysur iawn."
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: "Mae cynlluniau Kellanova yn bleidlais enfawr arall o hyder yn economi gogledd-ddwyrain Cymru.
"Cenhadaeth allweddol y llywodraeth hon yw tyfu ein heconomi.
"Mae gwneud y DU yn gyrchfan o ddewis i fuddsoddwyr yn rhan hanfodol o'r cynllun hwnnw.
"A'r newyddion yma yw'r arddangosiad diweddaraf o'r rhan enfawr sydd gan Gymru i'w chwarae wrth gyflawni ein cenhadaeth twf."
Dywedodd Aelod Seneddol Wrecsam, Andrew Ranger, ei fod yn "falch iawn o groesawu buddsoddiad sylweddol Kellanova".
"Mae'r ymrwymiad hwn nid yn unig yn tanlinellu hyder y cwmni yn Wrecsam fel lle gwych i wneud busnes, ond mae hefyd yn addo dod â chyfleoedd gwaith gwerthfawr a thwf economaidd i'r ardal," meddai.
"Ein gweithlu medrus yw un o asedau mwyaf Wrecsam, ac rwy'n hyderus y bydd eu harbenigedd a'u hymroddiad yn cyfrannu at lwyddiant y fenter hon.
"Yn ogystal, bydd ffocws Kellanova ar arferion cynaliadwy a stiwardiaeth amgylcheddol yn helpu i symud tuag at ddyfodol gwyrddach, gan fod o fudd i'n heconomi a'n hamgylchedd.
"Rwy'n edrych ymlaen at bartneriaeth lewyrchus a'r effaith gadarnhaol y bydd y buddsoddiad hwn yn ei gael ar Wrecsam."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2023