11 newid i dîm Cymru fydd yn herio Japan

Mae Alex Mann a Josh Macleod wedi eu galw yn ôl i garfan Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Josh Macleod ac Alex Mann wedi eu henwi yn nhîm Cymru i wynebu Japan yn Kitakyushu ddydd Sadwrn.
Mae'r prif hyfforddwr dros dro Matt Sherratt hefyd wedi cynnwys Kieran Hardy a Sam Costelow, Ben Carter, a Johnny Williams yn y 15 cychwynnol.
Mae Sherratt wedi gwneud 11 newid i'r tîm fydd yn cychwyn y gêm yn dilyn y golled o 68-11 yn erbyn Lloegr fis Mawrth.
Yn dilyn y gêm honno, dim ond Dewi Lake, Nicky Smith, Blair Murray a Taulupe Faletau sy'n cadw eu lle yn y tîm.
Fe allai Liam Belcher o Gaerdydd wneud ei ymddangosiad cyntaf fel eilydd os daw i'r cae.
Mae Belcher yn un o chwech o flaenwyr sydd wedi eu henwi i fod ar y fainc, yn ogystal ag Aaron Wainwright a Tommy Reffell.
"Rydym wedi cael cyfnod paratoi da iawn ac wedi ceisio rhoi cyfle teg i bawb i gael eu dewis," meddai Sherratt.
"Mae'n mynd i fod yn dasg 23 dyn. Felly rydym wedi ceisio gwasgaru'r profiad wrth gael 'chydig o brofiad o'r fainc."
Mae Cymru wedi colli 17 gêm ryngwladol yn olynol.
Bydd y tîm yn wynebu Japan yn Kobe ddydd Sadwrn, 12 Gorffennaf.
Tîm Cymru i herio Japan
Blair Murray; Tom Rogers, Johnny Williams, Ben Thomas, Josh Adams; Sam Costelow, Kieran Hardy; Nicky Smith, Dewi Lake (capt), Keiron Assiratti, Ben Carter, Teddy Williams, Alex Mann, Josh Macleod, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Liam Belcher, Gareth Thomas, Archie Griffin, James Ratti, Aaron Wainwright, Tommy Reffell, Rhodri Williams, Joe Roberts.