Aurora borealis yn goleuo'r nos ledled Cymru

Mynydd RhigosFfynhonnell y llun, ALLAN TROW/DARK SKY WALES
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa o Fynydd Rhigos yn Rhondda Cynon Taf nos Sul

  • Cyhoeddwyd

Roedd yr awyr yn olygfa anhygoel mewn nifer o ardaloedd ledled Cymru nos Sul, wrth i oleuadau'r gogledd oleuo'r nos.

Mae goleuadau'r gogledd, neu aurora borealis, yn ymddangos fel ardaloedd mawr o liwiau fel gwyrdd, pinc, melyn, glas a phorffor yn yr awyr i gyfeiriad y gogledd.

Yn ôl cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Sabrina Lee, roedden nhw i'w gweld yn fwy deheuol nos Sul o ganlyniad i storm geomagnetic gref.

Mae gronynnau o'r haul yn gweithio gyda'r nwyon yn yr atmosffer i greu'r lliwiau anhygoel.

Gallwch weld y golygfeydd o sawl ardal ledled Cymru isod

Ffynhonnell y llun, RORY TRAPPE
Disgrifiad o’r llun,

Yr awyr yn binc ym Mronaber, Trawsfynydd

Ffynhonnell y llun, Chris Parry
Disgrifiad o’r llun,

Wrth i'r haul fachlud nos Sul ar ffordd osgoi Porthmadog

Ffynhonnell y llun, TBOWPHOTOGRAPHY/TWITTER
Disgrifiad o’r llun,

Tŵr Paxton ger pentref Llanarthne, Sir Gaerfyrddin

Ffynhonnell y llun, RICHWIL/WEATHER WATCHERS
Disgrifiad o’r llun,

Criw o bobl yn mwynhau'r olygfa ym Morfa Nefyn

Pynciau cysylltiedig