Dyn wedi marw mewn digwyddiad beic cwad yng Ngheredigion
![Llanilar](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/e6f4/live/b16f7740-4505-11ef-96a8-e710c6bfc866.jpg)
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Llanilar nos Fercher
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 65 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â beic cwad amaethyddol yng Ngheredigion.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i gae yn ardal Llanilar ger Aberystwyth nos Fercher.
Bu farw'r dyn yn y fan a'r lle, yn ôl Heddlu Dyfed-Powys.
Ychwanegodd y llu bod teulu'r dyn yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae'r crwner a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael manylion yr achos.