Hyd at 100 o swyddi gyda'r Principality yn y fantol
- Cyhoeddwyd
Mae degau o swyddi gyda chymdeithas adeiladu'r Principality yn y fantol fel rhan o gynllun i "ailstrwythuro'r busnes".
Mae tua 160 o aelodau staff wedi cael rhybudd bod dyfodol eu swyddi yn ansicr, ond rhwng 80 a 100 o ddiswyddiadau sy'n cael eu rhagweld yn y pen draw.
"Bydd y camau rydym yn eu cymryd yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gorff cryf sy'n gallu cwrdd ag anghenion ein haelodau sy'n esblygu'n gyson," medd y prif weithredwr, Julie-Ann Haines.
Ychwanegodd bod yna ymroddiad "i leihau'r effaith, ble bynnag mae'n bosib, a chefnogi cydweithwyr yn ystod y newid".
'Gwella effeithlonrwydd'
Mae gan y gymdeithas adeiladu 53 o ganghennau - y mwyafrif yng Nghymru a nifer fach ar hyd y gororau - ac mae hefyd yn darparu gwasanaethau ar-lein.
Dywedodd Ms Haines: "Rydym yn cymryd camau i wella effeithlonrwydd ein gweithrediadau ac ein medrau digidol, sydd wedi arwain at ailstrwythuro ein busnes.
"Bydd y newidiadau yma, er yn anodd, yn golygu y gallwn wneud ymroddiad dros sawl blwyddyn i'n presenoldeb ar y stryd fawr yng Nghymru."
Mae aelodau, meddai, "wedi dweud wrthym eu bod yn gwerthfawrogi presenoldeb cryf ar y stryd fawr a chyfleustra gwasanaethau digidol gwell".
Ychwanegodd: "Wrth i ni ailsiapio'r busnes i sicrhau ein bod yn ffit at gyfer y dyfodol. mae'r rheswm dros ein bodolaeth - gwasanaethu ein haelodau - yn dal yr un fath ers i ni agor ein drysau 164 o flynyddoedd yn ôl."