'Colli miloedd o swyddi yn bosib' o achos rheolau llety gwyliau 'creulon'

Nicky Williamson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nicky Williamson yn rhybuddio y "gallai miloedd o swyddi gael eu colli" yn y diwydiant twristiaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na rybudd y gallai miloedd o swyddi yn y sector twristiaeth gael eu colli yng Nghymru os nad oes newidiadau i reolau gosod llety gwyliau.

Ers 2023, mae'n rhaid i letyau gwyliau Cymru gael eu gosod am o leiaf 182 o nosweithiau i fod yn gymwys ar gyfer trethi busnes rhatach, mewn ymdrech i sicrhau bod tai ar gael i bobl leol.

Mae'r rheolau'n "greulon", yn ôl Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU (PASC), sy'n dweud bod nifer o'u haelodau yn dewis gwerthu eu llety gwyliau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yn rhaid cydbwyso pwysigrwydd twristiaeth i'r economi gydag anghenion cymunedau.

Yn y gorffennol, roedd eiddo oedd yn cael ei osod i ymwelwyr am 70 noson yn gymwys ar gyfer trethi busnes rhatach yn hytrach na threth cyngor.

Mae'r system honno'n dal i fod yn weithredol yn Lloegr ond yng Nghymru bellach, mae angen i eiddo gael ei osod am 182 o nosweithiau.

Os nad ydy perchnogion llety gwyliau yn cyrraedd y trothwy yna, maen nhw'n cael eu nodi fel ail gartref ac yn gorfod talu treth cyngor – sydd, mewn rhai ardaloedd, yn golygu talu premiwm ychwanegol.

Traeth Benllech
Disgrifiad o’r llun,

Mae Benllech ar Ynys Môn yn ardal boblogaidd gyda thwristiaid

Yn ôl Nicky Williamson, o PASC Cymru, mae llawer o berchnogion llety gwyliau yn cael trafferth cyrraedd y trothwy, yn enwedig yn ystod misoedd tawelach.

Mae'n poeni os na fydd stoc o lety hunanddarpar ar gael y byddai hynny'n golygu "na fydd gennym y cyfleusterau i dwristiaid fedru dod i aros yma".

Mae'n rhybuddio y gallai pobl sy'n cael eu cyflogi yn y diwydiant twristiaeth "ddechrau colli swyddi - y tafarndai, y caffis... os nad oes twristiaid, dydyn nhw ddim yn mynd i oroesi".

Gyda ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod 159,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector, dywedodd Ms Williamson y gallai'r effaith negyddol arwain at golli miloedd o swyddi.

Robat Idris
Disgrifiad o’r llun,

Mae Robat Idris, llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith, yn croesawu camau "sy'n golygu bod modd llenwi tai yn amlach"

Dywedodd Robat Idris, o Gymdeithas yr Iaith, fod angen twristiaeth sy'n "gynaliadwy".

"Gadewch i ni gofio taw'r rheswm ddaeth y rheol i mewn oedd fod cymaint o dai yn gorwedd yn wag am gymaint o adegau'r flwyddyn, am y rheswm syml bod pobl yn medru fforddio mwy nag un tŷ," meddai.

"Mae 'na ddigonedd o bobl... sydd methu fforddio to uwch eu pennau, felly ma' unrhyw beth sy'n golygu bod modd llenwi tai yn amlach yn beth da ac yn beth i'w groesawu."

'Cloi'r drws ar Gymru'

Mae Jack Matthews yn berchen ar gwmni Oyster Holiday Cottages yn y gogledd efo'i frawd, William

Ers Covid, meddai, mae pobl yn fwy tueddol o drefnu gwyliau byrrach ar benwythnosau yng Nghymru, a mynd dramor am gyfnodau hirach.

Dywedodd: "Be mae'r Llywodraeth wedi neud ydi sbio [ar y niferoedd oedd yn ymweld] dros cyfnod Covid a chael shot o'r sefyllfa o 2015-2019 so ma' hwnna 'di 'neud eu meddyliau ar sail stats Covid pan o'dd popeth 'di mynd drwy'r to, ac ma' nhw angen cael look arall."

Jack Matthews
Disgrifiad o’r llun,

"Ar y funud mae'n teimlo bo' nhw isho cloi'r drws ar Gymru," meddai Jack Matthews am y llywodraeth

Mae Mr Matthews yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrando ar y sector, gan ddweud bod angen annog pobl i ddod i Gymru.

Ychwanegodd: "Ar y funud mae'n teimlo bo' nhw isho cloi'r drws ar Gymru a deud bo' nhw ddim isio pobl i ddod yma. Dyna sut mae'n teimlo ar y funud i ni."

'Nosweithiau di-gwsg'

Dangosodd arolwg diweddar gan PASC, oedd yn edrych ar iechyd meddwl y rhai sy'n berchen ar eiddo hunanddarpar, fod 94% o'r rhai wnaeth ymateb yn teimlo dan straen o ganlyniad i'r rheol 182 diwrnod.

Roedd 60% yn dweud nad oedden nhw'n disgwyl cyrraedd y trothwy eleni.

Ychwanegodd Ms Williamson: "Mae'r trothwy 182 yn cael effaith greulon ar fusnesau hunan-ddarpar Cymreig... dydyn nhw ddim yn gwybod pa ffordd i droi. Maen nhw'n cael nosweithiau di-gwsg.

"Mae effeithiau iechyd meddwl hynny, o beidio â gwybod a ydych chi'n mynd i wynebu bil enfawr, yn greulon."

Nia Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y rheol 182 o nosweithiau fel "sioc" i Nia Rhys Jones ac eraill yn y diwydiant, meddai

Mae Nia Rhys Jones wedi bod yn gweithio yn y maes twristiaeth ers blynyddoedd ac mae ganddi fwthyn hunanarlwyo ar Ynys Môn.

Dywedodd: "Oedd cyflwyno y 182 'ma yn naid aruthrol," meddai. "Saithdeg noswaith oedd o ac oedd hynna yn hollol dderbyniol.

"Dydi patrwm gwyliau Cymru ddim yn cydfynd drwy gydol y flwyddyn – mae o'n cydfynd hefo gwyliau'r ysgol.

"Mae 'di cau fwy yn gaeaf wrth gwrs ac wedyn 'chydig iawn o ymwelwyr newch chi ddenu yn ystod y cyfnod yna.

"Ma' cyflwyno 182 [noson] wedi dod yn sioc enfawr i'r diwydiant ac yn rhywbeth nad oedd y diwydiant yn ei ddisgwyl na'i groesawu o gwbl."

Ychwanegodd fod y diwydiant yn cyflogi nifer ar Ynys Môn, lle mae llety hunanarlwyo Ms Jones.

"Mae o'n ddiwydiant hollol, hollol hanfodol. Oni bai am y diwydiant ar Ynys Môn, byddai llawer iawn o'r bwytai, tafarndai, atyniadau ddim yn gallu bodoli o gwbl."

Ellis Glyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ellis Glyn Jones yn gweld dwy ochr y ddadl

Un atyniad sy'n gweld pwysigrwydd twristiaid ydi Sw Môr Môn.

Yn ôl Elis Glyn Jones, sy'n gweithio yno, mae wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer yr ymwelwyr.

"Fel rhywun sy'n gweithio yma drwy'r flwyddyn, mae oriau fi wedi mynd lawr dros y gaeaf ar hyn o bryd," meddai.

"'Dwi'n teimlo fel bod pawb yn y tîm yn teimlo fel eu bod yn cael eu gwasgaru'n denau a mwy o gyfrifoldebau.

"Yn y pen draw, mae'n anodd deud os fydd gen i swydd yn y diwedd os ydi hyn yn parhau."

Er yn rhwystredig, mae Mr Jones yn gweld dwy ochr y ddadl.

"'Dwi'n teimlo bechod dros berchnogion busnes, ond fel Cymro Cymraeg, mae'n torri 'nghalon i fwy gweld cymunedau yn torri lawr... ond mae pobl leol yn dibynnu ar swyddi yn y sector yma - pobl fel trydanwyr, plymwyr, tafarndai a chaffis lleol yn dibynnu ar bobl yn dod yma dros y tymor ofnadwy o fyr yna dros yr haf."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod pwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru ond mae'n rhaid i ni gydbwyso hynny ag anghenion ein cymunedau, gan fod gan bawb hawl i gartref fforddiadwy i'w brynu neu i rentu sy'n caniatáu iddynt fyw a gweithio'n lleol.

"Mae ein pecyn o fesurau i fynd i'r afael ag effaith ail gartrefi a tai gwyliau yn helpu i sicrhau bod perchnogion yn gwneud cyfraniad teg mewn ardaloedd lle mae ganddynt gartrefi neu'n rhedeg busnesau."