Jess Fishlock yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol

Fishlock yn erbyn Lloegr yn Euro 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Does neb wedi ennill mwy o gapiau dros Gymru na Jess Fishlock

  • Cyhoeddwyd

Mae Jess Fishlock wedi cyhoeddi y bydd hi'n ymddeol o chwarae dros Gymru ar ôl y gêm gyfeillgar yn erbyn Awstralia y mis hwn.

Yn 38 oed bellach, mae hi'n cael ei chydnabod fel y chwaraewr gorau yn hanes tîm menywod Cymru.

Mae hi wedi ennill mwy o gapiau rhyngwladol (165), ac wedi sgorio mwy o goliau (48) nag unrhyw chwaraewr arall yn hanes y gêm yng Nghymru.

Hi hefyd sgoriodd gôl gyntaf Cymru erioed yn un o'r prif bencampwriaethau rhyngwladol - a hynny yn ystod y golled o 4-1 erbyn Ffrainc yn Euro 2025.

'Siwrne anhygoel'

"I'r holl chwaraewyr a staff – diolch. Mae hi wedi bod yn siwrne anhygoel," meddai Fishlock mewn datganiad brynhawn Mercher.

"I fy nheulu a ffrindiau, dwi'n eich caru chi i gyd... Heb eich cefnogaeth chi fyswn i byth wedi cyflawni be dwi wedi ei gyflawni.

"Mi fydd gêm y merched yng Nghymru yn parhau i dyfu. Mae'r dyfodol yn un disglair.

"Dwi'n edrych ymlaen yn awr i gefnogi'r tîm cenedlaethol gyda chi o'r eisteddle.

"Diolch am bopeth."

Disgrifiad,

Gwyliwch rai o goliau pwysicaf Jess Fishlock i Gymru

Mi oedd 'na rywbeth arbennig am Fishlock o'r dechrau.

Fe ddechreuodd ei gyrfa gyda chlwb merched Caerdydd, sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gwalia United - gan chwarae i'r tîm cyntaf pan yn 15 oed.

Ar ôl bod yn gapten ar dîm dan 19 Cymru, fe enillodd ei chap cyntaf i'r prif dîm yn erbyn Y Swistir yn 2006.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach fe ymunodd â chlwb AZ Alkmaar - hi oedd y chwaraewr cyntaf o Gymru i chwarae'n yr Eredivisie, sef prif gynghrair Yr Iseldiroedd.

Fe dreuliodd gyfnod yn Awstralia gyda Melbourne Victory, cyn symud i Seattle Reign yn yr Unol Daleithiau yn 2013 lle mae wedi datblygu i fod yn seren fyd-eang.

Mae hi wedi cael cyfnodau i ffwrdd ar fenthyg gyda sawl clwb - gan ennill Cynghrair y Pencampwyr gyda Frankfurt a Lyon - ond Seattle yw ei chartref ers 12 mlynedd bellach.

Jess Fishlock yn chwarae yn erbyn yr Almaen yn 2007Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Fishlock wedi sgorio 48 gôl yn ystod gyrfa ryngwladol a ddechreuodd nôl yn 2006

Mae hi wedi profi llwyddiant gyda Seattle Reign hefyd, ond doedd yr un peth ddim yn wir ar y llwyfan rhyngwladol.

Mae hi wedi bod yn chwaraewr allweddol o dan arweinyddiaeth Andy Beattie, Adrian Tucker, Jarmo Matikainen, Jayne Ludlow, Gemma Grainger ac yn fwy diweddar Rhian Wilkinson.

Er yr holl goliau a pherfformiadau disglair ganddi, doedd Cymru ddim yn ddigon da i gyrraedd y prif gystadlaethau.

Boddi wrth yml y lan oedd eu stori am flynyddoedd. Ond fe newidiodd popeth ar 3 Rhagfyr, 2024.

Jess Fishlock yn dathlu cyrraedd Euro 2025 ar ôl ennill 2-1 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn NulynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fishlock yn dathlu cyrraedd Euro 2025

Ar ôl gêm gyfartal 1-1 yn y cymal cyntaf yng Nghaerdydd, fe enillodd Cymru 2-1 yn yr ail gymal yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn rownd derfynol gemau ail-gyfle Euro 2025.

O'r diwedd mi oedd hi'n mynd i gael y cyfle i berfformio ar y llwyfan mawr.

Er i Gymru gael eu rhoi yn y grŵp anoddaf posibl gyda Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd, doedd hynny ddim yn mynd i'w rhwystro rhag dangos ei doniau.

Fe gafodd yr anrhydedd o sgorio gôl gyntaf Cymru yn un o'r cystadlaethau mawr yn erbyn Ffrainc, cyn creu un arall i Hannah Cain yn erbyn Lloegr gyda rhediad a phass arbennig.

Jess Fishlock yn dathlu Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fishlock sgoriodd gôl gyntaf Cymru yn un o'r brif bencampwriaethau rhyngwladol erioed

Er iddyn nhw golli'r dair gêm - mi oedd hi'n addas mai Fishlock oedd wrth wraidd popeth da welsom ni gan Gymru yn y gystadleuaeth.

Ar ddiwedd y gêm yn erbyn Lloegr fe welsom ni hi yn chwifio tuag at y cefnogwyr yn llawn emosiwn.

Mi oedd hynny ynddo'i hyn yn awgrym ei bod hi'n meddwl ymddeol o chwarae dros Gymru.

Ac ar ôl cael ychydig fisoedd i ystyried y peth yn iawn - mae hi wedi penderfynu fod yr amser wedi dod i roi'r gorau iddi.

Megan Rapinoe gyda Jess Fishlock cyn gêm gyfeillgar rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru yn 2023Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Megan Rapinoe gyda Jess Fishlock cyn gêm gyfeillgar rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru

Mae Fishlock hefyd wedi bod yn fwy na pharod i siarad yn gyhoeddus am y ffaith ei bod yn hoyw.

Yn 2018 fe gafodd MBE am ei gwasanaeth i bêl-droed merched a'r gymuned LGBT.

Fe briododd Tziarra King yn 2023 ar ôl i'w ddwy dreulio cyfnod yn chwarae i Seattle Reign efo'i gilydd.

Yn y gorffennol mae hi wedi disgrifio ei chyfnod yn yr ysgol fel "uffern" ar ôl datgan ei bod yn hoyw.

Ond mae hi wedi defnyddio ei phroffil dros y blynyddoedd i geisio helpu eraill sydd wedi bod yn yr un sefyllfa â hi.

Ar y cae ac oddi ar y cae - mae Jess Fishlock wedi bod yn ysbrydoliaeth i sawl un.