Cyhoeddi'r 'ail don' o artistiaid Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

Yws GwyneddFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Yws Gwynedd ymysg yr enwau fydd yn ymddangos ar Lwyfan y Maes eleni

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi rhagor o'r artistiaid fydd yn perfformio yn yr ŵyl eleni ar gyrion Wrecsam ar 2-9 Awst.

Gyda'r rhaglen i'w chyhoeddi ym mis Mehefin, roedd y trefnwyr eisoes wedi enwi rhai o'r artistiaid ar gyfer y digwyddiad.

Ymysg yr enwau fydd yn ymddangos ar Lwyfan y Maes eleni mae Elin Fflur, Candelas ac Yws Gwynedd.

Bydd artistiaid lleol, gan gynnwys Daniel Lloyd a Mr Pinc a Talulah hefyd yn perfformio ar Lwyfan y Maes yn ystod yr wythnos.

Bydd y sioe gomedi, Cabarela, yn dychwelyd gyda sioe newydd 'Merched y Waw!', a bydd posib eu gweld yn y Babell Lên o nos Lun i nos Iau.

Hefyd, mae nifer o'r enwau fydd yn cymryd rhan yn sgyrsiau a sesiynau trafod y Babell Lên, gan gynnwys Geraint Løvgreen a Manon Steffan Ros.

Mae posib gweld rhestr lawn yr artistiaid ar wefan yr Eisteddfod, dolen allanol.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, fod yr amrywiaeth o artistiaid sydd wedi'u cyhoeddi yn "rhan o'r ail don, yn arbennig, gyda rhywbeth sy'n sicr o apelio at bawb ymysg y rhestr".

"Mae ton arall o gyhoeddiadau i ddod yn fuan, cyn i ni gyhoeddi'r rhaglen gyflawn ganol Mehefin."